Ailddysgu

Sunday 13 July 2014

Yn ol yn yr ardd: cnwd cynnar

Cnwd Cynnar 
(Neu Gynnar? Cywirwch fi, plîs!)  Beth bynnag, ar ol bod i ffwrdd am ychydig o ddyddiau, pan ddes yn ôl - roedd gymaint o’r ffrwythau yn barod, neu ar fin bod yn barod.  Dyma mafon a rhai aeron las (?? blueberry).  Dydyn nhw ddim wedi bod mor dda eleni - ond wedi
dweud hynny, dan ni ddim wedi gorffen y rhai yn y rhewgell!

Ac ylwch be oedd ar y mafon - yn gafael yn dyn!


A dyma’r eirin cyntaf:  Czar ydy’r rhain - a mae nhw’n flasus.  


Dydyn nhw ddim yn barod eto - ond mi fydda nhw yn fuan - a   mae gennyn ni rhai sydd o hyd yn y rhewgell.  Felly, amser i fwyta nhw i fynny. (Dwi'n hoff o goginio nhw mewn gwin)

A dyma’r siap sydd ar y ffrwythau eraill. 




 I  gyd yn dod ymlaen yn dda.  Dydy’r gellyg ddim yn edrych mor dda: un problem gyda tyfu ffrwythau organic - mae gymaint o glefydau mae nhw’n medru cael - a fel arfer - yr ateb (onibai eu bod nhw’n edrych yn ddifrifol ydy laisser faire.

3 Comments:

At 14 July 2014 at 00:23 , Blogger Wilias said...

Llus mawr ydan ni'n galw blueberry acw, am eu bod yn y teulu Vaccinium, fel ein llus gwyllt ni.
Mae'n rhai ni dal yn wyrdd iawn yma, a'r afalau'n bell ar ei hol hi i gymharu a dy rai di hefyd.
Cnwd: dwi'n meddwl bo' chi'n iawn. Cynnar.

 
At 26 July 2014 at 13:30 , Blogger Ann Jones said...

Diolch! Ond dal i fynny rwan dwi, ar ol bod i ffwrdd eto…
Dwi'n siwr bod y llus mawr (diolch!) yn gnweyd yn well yn eich ardal chi - rhy sych yma, a'r pridd ddim be mae nhw isio, felly rhaid cadw nhw mewn potiau a compost "ericaceous": a gyda digon o ddyfrio, mae nhw'n gnweud digon dda

 
At 27 July 2014 at 04:24 , Blogger Wilias said...

Hyd yn oed yma tydyn nhw ddim wedi talu am eu lle i fod yn onest. Dwi wedi codi un llwyn eleni am nad oedd ffrwyth arno, a'r lleill yn mynd ddiwedd yr haf, i wneud lle i fefus..
Llun yr ymerawdwr yn codi cenfigen arna'i. Fyddwn ni ddim yn eu gweld ffordd hyn, er eu bod yn ymestyn yn araf trwy ogledd Cymru

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home