Ailddysgu

Saturday 2 August 2014

Beth sy'n digwydd yn y tŷ gwydr ar ddechrau mis Awst

Dyma be sydd wedi digwydd eleni gyda’r pupurau yn y tŷ gwydr. 


A’r aubergines


A’r ciwcymber


Gwych!  Fel arfer dan ni ddim yn cael ffrwythau o gwbl tan yn weddol hwyr yn y tymor – a wedyn mae’r pupurau a’r aubergines yn aeddfedu yn hwyr, a weithiau, fel llynedd, roedden ni’n bwyta’r pupurau ym mis Rhagfyr.  Ond eleni, gyda’r gwres a’r haul dan ni wedi cael am ryw bump wythnos rŵan (neu mwy?), mae’r pupurau, a’r aubergines, a’r ciwcymber yn y tŷ gwydr wedi dod ymlaen mor gyflym.  Roedd pupurau bach yn barod am fwyta ym mis Gorffenhaf, hyd yn oed.  Efallai bod y blodau yn y tŷ gwydr wedi helpu hefyd.  Gyda'r aubergines dwi'n meddwl bod na problem wedi bod efo peillio yn y gorffenol, felly penderfynais rhoi blodau yna eleni i ddenu gwenyn a pryfed eraill.  Felly mae'r blodau yma, Rudbeckia, yn ffynu:


a hefyd blodau'r gwenyn (marigolds).

Dwi wedi sôn o’r blaen am y ffeirio dwi’n gwneud gyda’r gwerthwr llysiau a ddoe mi es a 9 ciwcymber iddo fo.  A mi fyddai’n cael pethau dwi ddim yn medru (neu dim yn trio) tyfu – fel bananas, ac afocado  a blodfresych.  Ac wrth sôn am yr rhain, dwi am drio tyfu nhw eleni – mi wnes i brynu blanhigion bach – a dwi wedi rhoi un neu ddau mewn llefydd gwahanol yn yr ardd.  Dwi’n gobeithio bydd hyn yn drysu y pilipala gwyn sydd yn dodwy eu wyau ar y planhigion.

Ond dydy rhai pethau ddim wedi gwneud mor dda.  Er bod yr eirin Czar yn barod


a mae digonedd ohonnyn nhw, mae ‘na hefyd llawer mwy o’r eirin sydd ddim yn iach a wedi pydru – fel yr rhain:



Dwn i ddim pam mae nhw fel ‘ma.  Efallai gwres yr haf poeth?  Ond heddiw o'r diwedd dan ni wedi cael dipyn o law - a efallai bydd y ddim mor boeth rwan.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home