Ailddysgu

Tuesday 29 July 2014

Gwyl Arall 2014

Mi ges i amser wych yn yr Wyl Arall eleni.  Os dach chi ddim yn gyfarwydd a’r Gwyl Arall, digwyddiad blynyddol yng Nghaernarfon - gwelir yma Eirian o “Palas Prints“ ydy yn o’r grwp bach sydd yn ei drefnu bob blwyddyn.

Roedd gymaint i weld, glywed a gwneud.  Dechreuais i gyda darlith John Davies am y  perthynas rhwng y Y Cymry a’r Gwyddyl, yn gnolbwyntio ar diwedd y deunasfed ganrif a dechrau’r ganrif diwethaf, a fel arfer gyda gwaith John Davies, diddorol iawn.  Siaradodd am patrwm y wlad (pwy biau’r tir a.y.y.b.); crefydd, iaith a diwydiant: roedd rhai o’r elfenau yma i’w gweld yn debyg rhwn Iwerddon a Chymru, ond nid felly wrth edrych eto ar y sefyllfa.  Tybed os oes rhyebeth wedi ei sgwennu ganddo?

Mwynhais hefyd gwrando ar Bethan Wyn Jones yn trafod planhigion meddyginaethol. Roedden ni mewn pabell yn yr ardd (palas Print) a’r glaw yn pistillio - ond dim ots.

Ar ol gwrando ar Ifor ap Glyn yn  holi’r Awdures Kate Crockett am ei llyfr diweddaraf am DylanThomas  a’i berthynas efo’r iaith Gymraeg, prynais y llyfr, a mae o, gyda llawer eraill, yn eistedd yn barod i fi dechrau arnynt.  Ond wnes i ddim lwyddo i fynd ’r digwyddiadau eraill am DT.  

Mi faswn wedi hoffii gwrando ar fwy o gerddoriaeth.  Roedd bandiau yn chwarae ty allan i’r Anglesey trwy y Gwyl.  Gwrandawais ar Gwenno Saunders  (a oedd dim ty allan i’r Anglesey ond mewn tafarn) am dipyn a mi wnes i aros dros y nos Sul i glywed Steve Eaves - gwych.  

Ond roedd gymaint o bethau ymlaen yn cynnwys noson o farddoniaeth, storiau a chaneuon am y Rhyfel Mawr gan y Prifeirdd Myrddin ap Dafydd a Twm Morys a clywed Dafydd Wigley yn son am ei berthynas drwg dros y dwr - Murray the Hump.  Stori rhyfeddol.

Swn i wedi hoffi mynd am daith cerdded gyda Emrys Llewelyn gyda’r enw  LLongau llongwrs a hwrs! Wel, mae dipyn o hanes i’r dre.  Ac doeddwn i ddim yn medry mynd i glywed canu gwrin Gwyneth Glyn ac eraill ar cwch (senio’n hyfryd) oherwydd cyfarfais gyda hen ffrind ysgol - a oedd hynny hefyd yn hyfryd.

Roedd fy ffrind Gareth yn lawnsio ei nofel, a Welsh Dawn a mi roedd y lawnsiad yn boblogiadd a fywiog, gyda Dafydd Wigley yn gofyn cwestiynnau i Gareth, a Gareth a Mari gwilym yn darllen rhan o’r llyfr.  Stori am genhedlaeth ifanc a ddaeth a gobaith newydd i’r iaith Gymraegyn ystod y 1950au.  A stori wedi ei leoli yn Nyffryn Nantlle, lle’r oedd (y fachgen) Gareth yn byw  am ychydig o flynyddoedd yn ystod y pumdegau.





0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home