Ailddysgu

Saturday 26 July 2014

Moulsecomb Forest Garden

Mi roeddwn in yn Brighton bythefnos yn ol.  Ac ar bore  Gwener, mi es i ymweld ag ardd:  “Moulsecomb Forest Garden“ sydd wrth yml yr orsedd yn Moulsecomb, ardal o Brighton.  R’on i’n digwydd bod ar campws (Mulsecomb) Prifysgol Brighton - sydd yn agos iawn, a roedd gan yr ardd diwrnod agored.

Mae’r ardd yn wych - yn tyfu llysiau gyda cymorth pobl gwahanol o’r cymuned: rhai oedolion gyda anablau dysgu, pobl ifanc eraill sydd ddim yn mynd i ysgol arferol ar hyn o bryd, a disgyblion o ysgolion o gwmpas yr ardal, yn ogystal a gwirfoddolwyr a.y.y.b.   A mae nhe hefyd yn cynnal bob fath o ddigwyddiadau yna hefyd.  Yn ddiweddaf, mae’r prosiect wedi bod yn adeiladu tŷ: ond dim unrhyw tŷ, ond tŷ gwyrdd - a roedd Russell, sy’n gyfrifol am y prosiect yma yn esbonio pa mor anodd ydy dod o hyd i  adnoddau gwyrdd.  Mae’r waliau wedi eu gwneud o forglawdd (? “cob“ yn Saesneg) traddodiadol  a’r to o wair lleol.  Dyma llun o rhan o’r tŷ ac o Russell:



A dyma llun o’r ardd (yn anffodus mi roedd o'n bwrw ar y pryd…). 


Mae bob math o weithredau yn digwydd yn yr ardd: yn cynnwys coginio a gwaith coed: dyma llun o’r gweithdy gwaith coed:


Da, te? A mae ’na fwy o wybodaeth am yr ardd ar ei blog nhw

A dyma ty arall, gwellt, a chafodd ei gwbwllhau yn gynhrarach


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home