Ailddysgu

Monday 18 August 2014

Digon o lysiau a diffyg blodau

Dydy ein gardd ni ddim ar ei gorau ym mis Awst (na Medi chwaith).  Dros y blynyddoedd dwi wedi trio  tynnu allan rhai o'r planhigion sydd yn blodeuo yn y Gwanwyn hwyr neu ar ddechrau'r haf, ond dwi ddim wedi llwyddo i gynllunio ardd ar gyfer bob tymor.  Dydy'r ffaith fy mod gen i fwy o ddidordeb yn y llysiau a'r ffrwythau, a bod yr haf hwyr yn frysur gyda casglu llysiau dim yn helpu chwaith.  Ond mi all ardd fod yn fendigedig yr adeg yma o'r flwyddyn, fel yr ardd yn y gwaith:


Mae'r echniacea yma yn edrych yn hyfryd gyda'r gwair yn y cefn.  Ond mae'r ardd yma yn fawr - gyda digon o le i flanhigion gwahanol cymryd eu lle ar y llwyfan, fel petai, a mewn gofod mawr, does neb yn sylwi llawer ar y planhigion sydd wedi gorffen, neu dim wedi blodeuo eto.  Am wahaniaeth i ran o'n border ni:


Popeth drosodd yn fama!  (Er bod ychynig o flodau flynyddol ar gael - fel cosmos a rudbekia - a dwi'n meddwl mi wnai drio dyfu mwy blwyddyn nesaf.)

Er bod yr echinacea mor brydferth yn yr ardd yn y gwaith, dwi wedi trio echinacea yn ein gardd ni yn y gorffenol - a dydy nhw ddim yn hoff o'r ardd, a mae o'n bwysig dewis planhigion sy'n hapus.  Ond hefyd, dwi'n tueddi rhoi planhigion tal iu fewn a phlanigion mawr - sydd yn cymryd drosodd, fel yr 'echinops' yma.


Fel dych chi'n gweld, mae nhw'n wych am ddenu gwenyn, ond mae nhw braidd yn hyll wedi gorffen.  Heddiw dwi wedi bod yn torri nhw i lawr, a rwan mae'r border yn edrych braidd yn wag - wel, yn wag iawn mewn llefydd, ond o leia medra i weld y chwyn sydd wedi cael ei guddio gan yr echinops.

Yn yr ardd llysiau a'r tŷ gwydr ar y llaw arall, mae'r pupurau yn ffynu, a'r ciwcymber, a'r aubergines, ond dim y tomatos.  Dwi'n defnyddio system 'Greenhouse Sensations' lle mae 'na gronfa dan y blanhigion i ddal dwr a maetholion, ond yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod y bwyd tomato yn gweithio.  Roedd gen i rhan ar ol eleni, a mae'n amlwg ddylwn i wedi prynu peth ffres.  Ond eto mae'r puprau yn ymdopi'n hapus.

Mae hi wedi bod yn wyntog iawn yn fama - ac er ei bod wedi bod yn stormus ar adegau, dydy ni ddim wedi cael llawer o law - fel arfer.  Felly dyfrio, a dyfrio  - yn yr ardd llysiau, beth bynnag.  Mae digon o ffa ffrengig a courgettes, ond y gellyg wedi dod i lawr yn y gwynt.  A dydy nhw ddim yn aeddfed eto - felly tybed bydden nhw'n iawn mewn crymbl, wedi eu goginio? Rhaid trio.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home