Ailddysgu

Sunday 5 October 2014

Barrug. haul a llygoden bengron y gwair

Mae'r haf hir, a dechrau'r hydref braf wedi gorffen.  Ar ol noson oer, 'roedd barrug ar y comin y bore yma, gyda'r haul yn treiddio trwy'r niwl.


Dyma ychydig o luniau eraill:


Mi gyfarddais a dyn a oedd wedi darganfod llygoden fach ar y llwybr - a oedd yn oer iawn, meddai, a felly oedd wedi bod yn trio cynhesu'r creadur bach.  Llygoden bengron y gwair oedd yr annifail .



Dydy'r annifail yma ddim yn anarferol, ond dydy o ddim mor arferol i weld un yn fyw.  Mae'n amlwg bod digonedd o gwmpas.  Yn anffodus (os dach chi'n llygoden bengron y gwair) nhw ydy'r prif bwyd y cudyll coch.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home