Ailddysgu

Monday 25 August 2014

Ffrwythau a llysiau ddiweddar

Wel, dyma ni bron ar ddiwedd mis Awst.  Ar ol haf gwych, mae'r tywydd wedi bod yn newidiol yn fama - ond yn sych, sych, sych - hyd at heddiw!  Dyma'r olygfa o'r afon bore 'ma.


Glaw mân, braidd fel glaw Cymraeg! Ond p'nawn yma, mwy o law, dipyn drymach tro yma.

Mae'r tywydd poeth a gawsom ym mis Mehefin a Gorffenaf wedi bod yn baradwys i'r pupurau a'r aubergines yn y tŷ gwydr.  Fel dwi wedi sylwi o'r blaen, roedd aubergines yn aeddfed ym mis Gorffenaf - rhwybeth anarferol iawn, iawn!.  A rŵan mae'r pupurau hefyd yn goch, fel gwelir.  Dyma'r golygfa o ddrws y tŷ gwydr:



- ond dydy o ddim yn dangos y planhigion yn dda iawn - felly dyma llun o'r pupurau -




ag o'r aubergines.



Tŷ allan i'r ardd yn y berllan anghyfreithlon, mae'r gellyg Bon Chrétien wedi gwneud yn dda iawn (o safbwynt y ffrwythau) OND, am un peth, mae'r ffrwythau wedi bod yn disgyn yn y gwynt, ac, yn fwy bwysig, mae'r coeden ei hun yn edrych yn ofnadwy.  Mae sawl haint i'w gael ar goed afalau a gellyg - a dwi ddim yn siwr pa fath o haint sydd ar y coeden yma, ond dwi'n gobeithio bydd yn well ar ol y glaw, ac ar ol dipyn o tocio pan gai'r cyfle.  Beth bynnag, mae’r ffrwythau yn ardderchog.



Yn ôl yn yr ardd llysiau, mae’r ffa ffrengig yn dda (ar ol llawer o ddyfrio); a mae’r betys a sbigoglys yn dda (o’r diwedd) ond methu wnaeth y ffa ffrenging dringo, a dwi wedi rhoi’r gorau i tyfu moron, yn anffodus.  Dydy nhw ddim yn hapus yn yr ardd yma.

2 Comments:

At 26 August 2014 at 13:17 , Blogger Wilias said...

Dwi'n genfigenus o'r ty gwydr! Ar hyn o bryd mae'n ty gwydr ni yn llawn o stwff am fy mod yn rhoi to newydd ar y cwt! Mae ffa yn un peth sydd yn gwneud yn dda iawn yma.

 
At 29 August 2014 at 23:13 , Blogger Ann Jones said...

Yn sicr dan ni'n ffodus iawn gyda'r ty gwydr - felly dwi'n gweld ryw "ddyletswydd" i drio gwneud y gorau ohoni!
(one does dim llawer o ffa rwan yn ein gardd sych ni!)

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home