Rhyfedd faint o bobl Gymraeg sydd o gwmpas, heb i chi wybod! Trwy’r cylch siarad Cymraeg dwi’n dod ar draws pobl newydd o bryd i’w gilydd. Fy ffrind a chyfoed Jan a ddechreuodd y grŵp. Mae Jan wedi bod yn dysgu Cymraeg am ryw ddwy flwyddyn rŵan, a wedi dod ymlaen yn dda iawn: felly ar gyfer dysgwyr, yn y bôn, seflydlwyd y grŵp (sydd yn cael ei hysbysebu trwy Say Something in Welsh). Ond mae o’n gymysgiad da o ddysgwyr a siaradwyr rhugl. A mae pobl yn dod o ardaloedd wahannol hefyd. Mae mwy o’r Cymry Cymraeg yn dod o’r gogledd; Bethan (sydd ddim yn medru dod yn aml) yn dod o Sir Fôn; Marian (sydd yn byw yn yml i fi a sydd yn cadw’r Cymraeg ar yr aelwyd gyda’i merch) yn dod o Bwllheli, a Gwyneth gyda’i gwreiddiau hefyd yn Sir Fôn ond wedi cael ei magu yn Llundain. Felly mae Rhodri (Aberaeron) yn eithriad, braidd.
Hanesion difyr sydd gan yr aelodau hefyd. Rhai yn ailafael ar y Cymraeg ar ol blynyddoedd i ffwrdd. Ac un wedi colli’r hyder i siarad Cymraeg ar ol mynd i ysgol Saesneg, blynyddoedd yn ol, yn Llundain. Felly mae ei mam hi yn siarad Cymraeg a mae hi yn dallt popeth – ond yn ateb yn Saesneg, ond yn raddol mae hi’n dechrau siarad.
Mae’r dysgwyr yn gymysg hefyd. Un wedi gwneud y cwrs Prifysgol Agored (Croeso) ac yn edrych am gyfleoedd i ymarfer; un ond wedi dechrau gyda SSIW ryw dair fis yn ol; felly yn gwrando yn hytrach na siarad, y ran fwyaf, ond yn medru deallt dipyn erbyn hyn.
Mae’r grŵp yn cyfarfod bob mis, mewn tafarn leol, a nos Iau es i yna gyda Jan, a chyfarfod a Marilyn am y tro gyntaf: merch o Llanferfechan yn byw ryw 5 milltir i ffwrdd – yn yr un dre bach a Jan. Sgwrs dymunol am bron ddwy awr – er bod yr amserlen yn dweud 6-7.30. Felly digon o hwyl i’w gael.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home