Ailddysgu

Monday 25 August 2014

Llyfrau diweddar: 1 – Lliw yr Eira

Dwi wedi mwynhau sawl lyfr Gymraeg yn ddiweddar – a wedi meddwl am rhoi ryw fath o adolygiad ar fy mlog ond wedi methu.  Pam? Wel am un peth, dwi ddim wedi cael llawer o amser i gyfrannu at y flog o gwbl i ddweud y gwir.  Heddwi mae hi'n bwrw - felly amser i'w gwneud.  Ond dwi’n meddwl mai’r rheswm penodol ydy ei fod yn anodd iawn i fi sgwenu adolygiad yn y Gymraeg.  Efalla bod sgwennu adolygiad yn anodd mewn ynrhyw iaith – dwi wedi son am hwn o’r blaen, dwi’n siwr.  Dwi’n aelod o grwp Darllen Saesneg, a’r trefn ydy ein bod yn sgwennu adolygiad o’r llyfr a ddewiswyd o’n rhestr ni – a mae o’n annodd, a dim yn digwydd bob tro.

Felly dwi am ond sgwennu dipyn am y llyfrau – be fedra i a pryd medra i.  Y gyntaf ydy Lliwiau’r Eira gan Alun Jones.  (Am rhyw rhewm mae'r llun ar ei hochr…)


Yr unig llyfr arall gan Alun Jones roedden i wedi darllen cyn hwn ydy “Yna clywodd swn y môr”, ei nofel mwyaf enwog, a mwynhais y llyfr.  Mae hwn yn wahanol iawn.  Mae’r clawdd yn ddeiniadol iawn (yn fy marn i) a fel mae’r clawdd yn awgrymu, mae’r hanes yn cymryd lle mewn gwlad lle mae natur yn gryf, a lle, o be dyn ni’n clywed yn y stori, mae llawer o’r wlad yn wyllt, gyda bleiddiaid ac eryrod o gwmpas.  Mae gan rhai o’r gymeriadau ryw fath o ffordd o ddallt a cyfathrebu gyda’r anifeiliad yma.  Does dim sicrwydd lle, neu pryd, mae’r stori yn digwydd, ond mae o’n teimlo’n hanesyddol, gyda phobl yn byw heb tecnoleg, ac yn teithio ar draed.  Mae’r cefn wlad yn wyllt ac yn mynyddig, ac yn oer.
Mae’r hanes yn dilyn pedwar cymeriad, Eyolf, Tarje, Linus a Jalo, sydd yn ffoi o’u byddin – mewn gwlad lle mae pob dyn yn gorfod ymuno a’r byddin.  Ar wahan i ddisgrifio’r cefn gwlad, canobwyntio ar y cymeriadau mae’r awdur, ac yn raddol mae’r darllenwyr yn sylwi bod y rhan fwyaf o’r dynion yn y wlad yma yn rhyfela, ac yn gorfod ymuno a’r byddin.  A byddinoedd creulon iawn ydyn nhw hefyd.
Mi wnaeth y nofel wir cael afael arnaf fi.  Roeddwn yn meddwl am y llyfr am amser hir – a dyma rhan o be sydd gan Lyn Ebenezer i’w ddweud amdano: 

Prin i mi erioed ddarllen nofel debyg iddi yn Gymraeg.  Mae popeth sydd o’i  gwmpas hi yn hudolus.  Mae hyd yn oed y rhanau arswydus yn brydferth”  Wnes i ddim ddarllen adolygiad cyn dechrau ar y nofel – (rhaid dweud roedd y clawdd yn fy nenu am un peth!) ond mae hudolus yn gair dda – mi wnes i gael fy nhynnu i fewn i’r byd yma – roedd llawer o bethau ofnadwy yn digwydd yn y byd yma – ond r’on i wir eisiau mynd ymlaen i ddysgu be ddigwyddodd i’r dynion.
Dwi’n cytuno’r llwyr gyda Lyn Ebenezer hefyd pan mae o’n dweud:
“Wn i ddim sut mae dechrau disgrifio’r campwaith hwn.  Mae’n rhyw gyfuniad rhyfeddol o llyfrau ffantasi Stephen King, a’r mabinogi, lle mae dyn a creaduriaid mewn cytgord.”  Yn union: a mae rhyw naws yn aros gyda chi am beth amser – un o’r llyfrau gorau dwi wedi darllen ers dipyn.  Mewn llefydd, dydy hi ddim yn nofel hawdd i rhywyn sydd heb Gymraeg fel ei iaith gyntaf - ond yn sicr yn werth parhau hefo hi.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home