Ailddysgu

Sunday 26 October 2014

Dail yr hydref a blodau'r haf

Gwrandewais ar Galwad Cynnar ddoe (braidd yn gynnar i ddweud y gwir, erbyn 9 o’r gloch gyda’r nos, roeddwn isio cysgu) a clywed sgwrs am ddeil-bridd, a’r maeth sydd ynddo fo.  Llynedd roeddwn yn sôn am wneud ddeil-bridd gyda’r dail o’r strydoedd agos.  Dyma sut oedd y dail yn edrych ar y pryd.  Dyma sut mae nhw rŵan.  



Yn ôl y cyngor ar Galwad Cynnar, rhaid troi’r dail bob wythnos - rhywbeth na fyddwn yn gnweud gyda fy system i.  A mae angen ddwy flynedd i’r dail bod yn barod.  Felly, cyn casglu mwy o ddail bydd rhaid symud dail llynedd i rywle i adael iddyn nhw aeddfedu a torri i lawr.

Mae llawer o’r blodau yn parhau o hyd, fel y cosmos a’r blodyn y gwenyn.  Mae’n dda cael nhw o hyd gyda’r dyddiau yn byrhau a’r gaeaf yn nesau.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home