Ailddysgu

Monday 20 October 2014

Llysiau a ffrwythau

Mae  ‘na ychydig o lysiau ar ol yn yr ardd, yn cynnwys panas – a mae rhai ohonyn nhw yn fawr.  Ni chawsom llawer o lwyddiant gyda nhw, felly ond ychydig o blanhigion sydd yna – a mae nhw am cael ei adael erbyn Dolig.


Yn y tŷ gwydr, mae pupurau a aubergines yn ffynnu o hyd – ond dysgais gwers eleni.  


Rhois un blanhigyn o bupurau poeth yn y tŷ gwydr – a’r lleill i gyd i fod yn felys.  (Dwi ddim yn or-hoff o tshilis – ond mae’n amlwg bod y planhigion wedi ‘croes peillio” (? cross-pollinate) a mae llawer o’r ffrwythau sydd i fod yn felys yn boeth!
A daeth gwers arall ar ol dipyn o arbrofi.  Tyfais 'tomatillo" am y tro gyntaf - yn meddwl bod o'm bosib bwyta nhw dipyn fel tomatos.  Ond na, mae rhaid coginio nhw - a un o'r ffordd o'u defnyddio nhw ydy mewn saws 'salsa'.  Dyma nhw:


Dwi ddim yn meddwl mi fyddaf yn eu tyfu eto.  Yn yr un gwely, rhois cynnig ar "Inca berries".  Mae'r rhain dipyn fel 'cape gooseberry" gyda ffrwythau bach melyn gyda blas hyfryd - ond yn anffodus, wnaeth y rhan fwyaf ddim aeddfedu.

A heddiw dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer y gaeaf.  Fel arfer dwi’n plannu cymysgedd o blanhigion salad- ond rywsut dwi ddim wedi llwyddo i wneud gymaint eleni.  Felly dwi wedi bod yn cymryd gofal mawr o’r planhigion bach letys – a byddan nhw yn tyfu yn araf bach trwy y gaeaf, yn barod am y gwanwyn gynnar.


O'r ffrwythau, ond y gellyg a'r mafon sydd ar ol, rwan.  Gan bod tywydd gwyntog iawn ar y ffordd, dwi wedi casglu'r gellyg sydd ar y coeden (i gyd bron yn aeddfed) a bydd y mafon yn parhau tan y rhew gyntaf.  Felly, ond y sbigoglys i baratoi am y rhewgell rwan.  


2 Comments:

At 21 October 2014 at 15:30 , Blogger Wilias said...

Mafon yr hydref yn siom garw yn fan hyn. Difyr iawn ydi canlyniad y tyfu pupur a chili..

 
At 26 October 2014 at 03:02 , Blogger Ann Jones said...

Dydy'r mafon ddim yn dda iawn fama chwaith

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home