Nos Fawrth, es i glywed dyn a ffotograffwyr lleol yn sôn am fywyd gwyllt a natur yn Milton Keynes. Dydy llawer o bobl ddim yn gweld y ddinas fel lle da ar gyfer bywyd gwyllt, ond dydy o ddim yn ddrwg o gwbl a r’on yn awyddus i glywed am lefydd ar draws y ddinas, ac efallai i glywed am adar d’on i ddim yn gwybod amdanyn nhw.
Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi clywed am adar neu anifeiliaid d’on i ddim yn gwybod amdanynt, ar wahan i’r ffaith bod y tir wrth ym yml lle dwi’n gweithio yn dda am weld nadroedd (ond un neidr sydd i’w gael yn MK, dydy’r gwiber ddim yn byw yma). Ond yn sicr roedd clywed am y tegeirianau sydd yn tyfu yma yn syndod i fi, a hefyd yr mrywiaith o ieir bach yr haf. A gan fod ei luniau more dda (gwelir www.cwardphotography.co.uk) roedd y noson yn dda iawn.
Yn aml mae 'na fwy o gwmpas na fydd pobl yn meddwl. Roedd arlunwraig lleol yn y cyfarfod, sydd yn ganolbwyntio ar fywyd gwyllt, ac yn gwneud llawer o luniau o sgarnogod. Felly, wnes i ddechrau feddwl - be ydy fy hoff anifeiliaid neu adar sydd i’w gael o gwmpas y dinas? A dyma rhai ffefrynnau sydd ar fy rhestr:
Glas y dorlan. Dwi ddim yn gweld nhw yn aml: rhaid bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Lwc ydy o (i fi, beth bynnag). A fel arfer, maent yn hedfan heibio yn gyflym. Ond weithiau, mae cyfle i drio cael llun gwell (ond dwi ddim wedi llwyddo i gael un dda, eto).
Cornchwiglen. Braidd yn brin, ond mae nhw’n nythu’n lleol (ond dim llawer ohonyn nhw) ac i’w gweld wrth ymyl y llynoedd yn y Gaeaf.
Llwynogod. Dwi’n gwybod bod llawer o bobl yn eu casau - ond mae nhw’n del ofnadwy. (Dydy’r llun yma ddim o MKeynes)
Sgwarnogod. Mae ’na ddigon o gwmpas, ond mae rhaid gwybod lle mae nhw. A mae Kate (), yr arlunwraig yn gwybod yn union lle i fynd. Dwi ddim wedi llwyddo cael llun o sgwarnog lleol eto - un Cymraeg ydy hon! ( a dim yn ofnadwy o glir).
Tylluanod. Bob fath. Yn fama dan ni’n cael y dylluan fach, y dylluan wen, y dylluan glustiog (rhai flynyddoedd) a mae’r dylluan frech yn byw yn yr ardal ond anaml iawn dwi wedi eu gweld nhw. Dwi ddim yn meddwl bod na llawer ohonyn nhw chwaith. Y tylluan glustiog ydy hon.
Mae na un greadur brin sydd ddim mor frin yn fama - y fadfall ddŵr gribog (greater crested newt). Er hynny, dwi erioed wedi gweld un. Falle eleni?
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home