Dwi wedi treulio llawer o amser yn cerdded yn ddiweddar - gyda Teo y ci, wrth gwrs - a mae’r tywydd wedi bod yn fendigedig. Ar y comin mae’r tylluan wen wedi bod yn hela, a mae’r ehedydd yn canu eto. Dyma llun o’r ehedydd.
Ond mae fy meddwl i wedi troi at yr ardd. Dwi’n dilyn cyngor Charles Dowding eleni - sydd yn esbonio sut mae palu yn medru dinistrio strwythyr y pridd - neu amharu arno fo beth bynnag.
Dwi wedi dechrau yn yn tŷ gwydr - a wedi rhoi compost ar un gwely newydd ac ar un a chafodd ei ddefnyddio llynedd. Aros am ychydig rŵan i roi amser i unryw chwyn dod i’r fai, a wedyn cael gwared ohonyn nhw cyn roi hadau neu phlanhigion i mewn.
Ond anodd cael digon o gompost. Treuliais dipyn o amser yn symyd compost o un o’r biniau compost ddoe, ac erbyn gorffen roedd y compost i gyd wedi mynd. Meddwl ydwyf am archeb compost sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer madarch, i’w ddefnyddio fel ’mulch’. Yn y cyfamser, mwynhau'r blodau a'r gwenyn sy'n heidio i'r blodad gynnar.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home