Ailddysgu

Friday, 10 April 2020

Mwy o'r add

Gyda pawb yn cadw’n draw o’u gilydd ac yn aros yn lleol, a’r tywydd yn braf, dwi wedi bod yn treulio mwy o amser yn yr ardd (sydd wir angen dipyn o amser).  I’r rhai ohonom sy’n medru gwneud hyn, mae’n amser brysur yn hau, chwynnu ag yn gyffredinol edrych ar ol yr ardd a’r planhigion.

Yn y tŷ gwydr mae planhigion bach bach o domato, aubergine a pupur melys yn dechrau dod ymlaen, a letys a spinaets dipyn yn fwy.  Dwi’n aros i’r letys a’r spinaets tyfu digon i’w fwyta gan bod salad y gaeaf bron wedi gorffen - ond wedi gwneud mor dda: wedi para o fis Ionawr tan rŵan.  

Yn yr ardd ei hun, dwi wedi bod yn chwynnu: yn benodol dwi’n trio cael gwared o’r dant y llew.  Maent yn edrych yn brydferth ond yn lledaenu mor gyflym, ond does dim gymaint ar ol rŵan - dim yn yr ardd gefn beth bynnag.  Yn gyffredinol dwi wedi bod yn potsian o gwmpas yr ardd, sylwi ar gwaith sydd angen ei wneud a trio tynnu lluniau o’r pryfed a’r adar, a’r blodeyun. Dyma blodau eirinen wlanog a blodau'r coed ffrwythau yn erbyn y wal.



Dwi ddim yn tyfu pŷs yn aml, ond maent yn yr ardd eleni - a dwi wedi rhoi cefnogaeith iddynt rŵan; canghenau bach o’r coed afal ar ol iddyn nhw cael eu tocio.  Felly gobeithiaf byddant yn dod ymlaen.  Mae dwy res o datws i fewn a dwi’n gobeithio rhoi un arall i fewn heddiw (unwaith dwi wedi tynnu’r cenin sydd ar ol, i gael lle!) Ond dwi am aros dipyn bach cyn rhoi moron, betys a pannas i fewn - dydyn nhw ddim yn gwneud yn dda os dyn nhw’n mynd i fewn rhy gynnar.  

A tybed be ydy’r pryf yma?  Dim cweit mewn digon o ffocws ond marciau mor diddorol ar ei gefn.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home