Ailddysgu

Sunday 26 January 2020

Diwrnod ardderchog o Gymraeg

Cefais diwrnod bendigedig ddoe yn y Ganolfan yn LLundain ar cwrs undydd Cymraeg, gyda Gwen (Rice), brenhines y gramadeg, yn diwtor.  Dwi wedi bod yn trio meddwl a myfyrio am pam dwi’n cael cymaint of hwyl a be oedd mor dda.

Chwech ohonon ni, cris cyfeillgar a hoffus, oedd yna yn y diwedd yn y dosbarth uwch.  Cawson glywed ein hanesion ynglyn a dysgu Cymraeg ar ddechrau’r dydd.  Dwi’n siwr fase llyfr ar y pwnc yma yn ddiddorol dros ben - a trist efallai.  Y tro yma roedd pawb wedi ei magu yng Nghymru; hanner o’r de a hanner o’r gogledd.  Roedd tri (dwi’n meddwl, os dwi’n cofio’n iawn) wedi cymryd lefel A yn y Gymraeg, ond wedyn wedi symyd i ffwrdd o Gymru.  Un ferch yn dweud bod Cymraeg ar yr aelwyd am rai flynyddoedd a wedyn bod athrawes wedi rhoi’r cyngor i’r teulu i siarad Saesneg ....  Yr hen, hen stori drist am sut mae’r iaith yn medru diflannu mewn cenhedlaeth. Ac mewn llefydd yn y De, roedd dim gymaint o Gymraeg o gwmpas, felly roedd yr iaith yn y tŷ ac yn yr ysgol yn bwysig.

Beth bynnag, roedd pawb wedi mynd ati i ail-afael ar yr iaith.  Yn eitha gynnar yn y dydd, gofynnodd Gwen beth oedd ein problemau ynglyn a dysgu Cymraeg a chael o leia 8 ateb, sef:
1 “yes and no”; 
2  ffurfiau cryno’r presennol, gorffennol/dyfodol
3 cenedl enwau
4 cofio geirfa
5 cyfle i siarad
6 trin meddiant
7 sillafu ac 
8 treigladau.  

I fi, mae 2, 3, 7 ac 8 yn broblem.  Yn aml dwi’n osgoi’r ffordd cryno - mae ’nes i’ a.y.y.b. rhy hawdd.  Dwi’n trio gwella fy wybodaeth am cenedl geiriau - ac yn dilyn cyngor Gwen i ddysgu enwau gydag ansoddeiriau - a hefyd yn trio sylwi pan dwi’n darllen.  A dwi’n meddwl fy mod i’n gwella’n raddol.  Dwi yn anghofio geirfa - ond dwi’n gwneud hynny yn Saesneg, fy mam iaith, hefyd, a dim yn trafferthu gormod dros y peth.  Y cynllun mawr (ha ha) ydy darllen digon, gwrando ar y radio a gwylio S4C, siarad, ac wrth gwrs sgwennu’r blog yma.  (A dwi ddim yn gwneud digon o flogio).  

Er fy mod yn byw yn Milton Keynes, dwi’n meddwl bod digon o gyfleoedd i siarad Cymraeg, yn y bôn.  Fel arfer dwi’n siarad ar y ffôn gyda fy ffrind am awren bore Sul, a gyda ffrind arall hefyd - ond dim bob wythnos; mae cylch siarad bob fis, a dw’n cael sgwrs Cymraeg gyda phobl Cymraeg lleol bob hyn a hyn.  Ond y peth gorau, cyson, ydy’r grŵp darllen Cymraeg yn Llundain - a mae Gŵyl Arall yn wych, hefyd.  A dyna pryd dwi’n teimlo’n rugl - ac yn bell o fod yn rugl, bron ar yr un pryd.  Mae trafod pethau fel llenyddiaeth neu barddoniaeth neu hanes yn llawer mwy heriol, enwedig tuag at diwedd y dydd, pan dwi’n flinedig.  A mae siarad mewn iaith sydd ddim yn famiaith yn mynd yn flinedig ar ol ychydig o oriau.

Y ddwy beth arall i achosi problemau i fi ydy sillafu, a treigladau (siwr bod y post yma yn dyst i’r ola!).  Dim gormod o broblemau gyda sillafu - ond dwi yn rhoi y lle ddyle fod u weithiau - neu u yn lle y - ac yn aml ddim yn cofio pryd mae n neu r  yn dyblu.  Treulion ni llawer o’r dydd yn trafod a thrin y problemau yma.  A rywsut mae Gwen yn gwneud yr holl beth mor ddiddorol yn ogystal a rhoi eglurhad mor dda, ac engreifftiau. Dwi’n meddwl , i fi, bod y ffaifh ei fod hi yn ieithydd yn help mawr hefyd.  Dwi’n rhannu diddordeb mewn strwythyr ieithoedd. Dwi wastad wedi ffeindio ieithoedd yn hudolus.  A dwi dal yn gobeithio cael amser, ryw ddydd, i fynd yn ol at ieithoedd eraill - cael ail-afael ar Eidaleg, a Ffrengig.  (O, a hefyd, wrth wylio’r Nordic Noir diweddar, gydag is-deitlau, ’Wisting’, wedi mwynhau clywed yr iaith, a dysgu ambell air...).  Ond  post arall ydy trafod ieithoedd yn fwy gyffredinol. 

A cawson ein gyflwyno i ychydig o gerddi newydd ar ddiwedd y dydd, yn cynnwys un (eitha hen, dwi’n meddwl) gan Ifor ap Glyn nad oeddwn wedi dod ar draws o’r blaen. O ran anhawster, i fi, mae barddoniaeth Ifor ap Glyn yn amrywio gymaint.  Dwi’n medru dallt rhai yn syth bîn, rhai yn cymryd dipyn mwy o waith, a rhai yn anodd iawn, heb gymorth.  Ond dyna natur barddoniaeth yn fwy gyffredinol, dwi’n tybed.  (Dwi’n cael yr un brofiad yn Saesneg).  

Felly,  diwrnod wnes i fwynhau gymaint.  Hwb i fy nghymelliant (dyna llond ceg) ac edrych ymlaen i’r un nesa.

1 Comments:

At 27 January 2020 at 00:55 , Blogger Marconatrix said...

"y ffaiTh ei Bod hi" ;-)

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home