Mae storm ‘Denis” wedi bod yn rhuo tŷ allan, ond yn gwanhau rŵan, a dan ni yn fama wedi bod yn lwcus ofnadwy hyd at hyn; mae llygad y storm wedi bod yn yr Alban a dydy hi ddim mor ddrwg yn fama, yn bell i ffwrdd o’r môr. Ond mae rhagolygon y tywydd digon drwg yn enwedig yn yr Alban, Cymru a gogledd Lloegr lle disgwylir llifogydd. O ran llifogydd, dan ni’n ffodus fel arfer yn fama hefyd: bydd rhan o’r comin yn siŵr o fod dan dŵr, ond fel arfer dydy'r dref ddim yn cael niwed.
Felly, falle ei bod hi wedi bod braidd yn optimistaidd i blannu’r ffa llydan dydd Gwener: falle byddant yn boddi, ond gawn weld. Fel arfer, dyma’r llysiau gyntaf yn yr ardd, wedi cael eu blannu yn yr Hydref hwyr, ond eleni, rywsut gwnaeth hynny ddim digwydd, felly gobeithiaf byddant yn iawn.
Dwi newydd defnyddio’r panas olaf. Gwnes cawl panas ac afal, dydd Gwener. Ond yn y tŷ gwydr mae dipyn bach o blanhigion salad ar ol.
Digon am salad bach o bryd i’w gilydd. A mae planhigion bach bach o letys a spigoglys yn dechrau tyfu ar gyfer y Gwanwyn.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home