Dwi wedi laru ar y glaw a’r gwlybaniaeth. Mae’r comin mor wlyb dan droed, ond un fantais (sylweddol) o Milton Keynes ydy’r rhwydwaith o lwybrau trwy’r ddinas. Mae llawer o’r rhain yn dilyn yr afon neu’r camlas neu yn mynd trwy un o’r parciau. Fe’u hadeiladwyd ar gyfer beicwyr yn y dinas (a cherdded wrth gwrs), felly mae gan y llwybrau wyneb caled.
Dydd Gwener, es am ginio gyda fy ngŵr i café Camphill. Yn anffodus dydy o ddim yn medru cerdded yn bell o gwbl y dyddiau yma oherwydd problemau gyda’r pengliniau, felly ar ol cinio, aeth Jim yn ol gartref a fi a’r ci, Teo, ymlaen am dro ar hyd y gamlas a wedyn i’r Parc yn nghanol y ddinas – Parc Campbell.
Dwi’n hoff iawn o’r parc yma – coed hyfryd a golygfeydd dros a ty hwnt I’r ddinas. Yn aml mae defaid yn pori yn y parc – a felly bydd rhaid i Teo fod ar denyn, ond dim y tro yma. Un peth arall am y parc yw’r gwaith celf (sydd i’w ddarganfod trwy’r ddinas). Mae’r llechi yn un o’r rhain yn dod o Ffestiniog
A wedi cerdded trwy’r parc roedden yn ffodus a medru dal bws yn ol i Newpiort Pagnell yn y glaw.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home