Cawsom pedair diwrnod o haul braf, o ddydd Sadwrn tan dydd Mawrth, ac yn ffodus, roeddwn wedi trefnu mynd am daith cerdded gyda’m ffrindiau dydd Sul. Rhaid dweud, dwi’n hoff iawn o ddyddiau haelog yn y gaeaf; mae’r golau mor fendigedig. A dyna sut oedd o dydd Sul. Gyrrais i tŷ y ffrind a oedd yn arwain y taith cerdded yn Stony Stratford ac i ffwrdd a ni (tua 7 ohonom ni). O, a Teo y ci hefyd. Roedd llawer o’r daith ar hyd yr afon, neu’r gamlas.
Aethom i’r Navigation ym mhentref Cosgrove am ginio, ar ol cerdded ryw 6 filltir. Wrth fynd drwy’r cyntedd, sylwodd Teo ar y bisgedi ci wedi eu adael mewn bowlen bach... am gi hapus. A lle hyfryd o flaen y tân, a cinio bendigedig. Dim llawer o amser i dynnu lluniau, ond dyma un a tynnais ar ol cael cinio yn y tafarn.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home