Dwi newydd gorffen darllen
Wilding gan Isabella Tree. Mae’r llyfr wedi cael sylw ar Galwad Cynnar a mae Isabella Tree wedi bod ar
Desert Island Discs yn eitha ddiweddar hefyd yn son am y prosiect. Mae gymaint yn y llyfr (dwi’n dechrau ei ddarllen eto!) a mae profiad yr awdures yn dangos yn glir sut dan ni wedi cam-drin y ddaear, a’r pridd, dros gymaint o flynyddoedd, heb wybod am y niwed ein bod yn gwneud. Un engraifft bach – neu fawr – ydy’r coeden derw. Ar ol i arbennigwr ymweld a’r tir lle fuodd Isabella a’i gŵr yn ffermio, esboniodd bod rhai o’r coed derw yn marw. Maent eisio gymaint o le ac yn dioddef os ydy’r tir agos wedi cael ei aredu, a mae cwrtaith hefyd yn gwneud niwed. Hefyd, mae’r gwreiddiau yn ymestyn yn bell, bell a felly yn medru cael eu effeithio gan tir sydd ddim i’w weld yn agos. Ac eto mae’r dderwen mor bwysig i greaduriad gwyllt. Yn ol
Garden Organic
mae derwen aeddfed yn cynnal dros 280 rywogaethau o drychfilod. Ond dan ni’n colli gymaint ohonyn nhw ( y derw A’R drychfilod). Ac wrth gwrs (doeddwn ddim wedi meddwl am hyn ond mae o’n gwneud synnwyr) cafodd llawer iawn o dderw ei ddinistrio yn ystod yr ail-ryfel i wneud lle i dyfu bwyd - ac ers hynny mae gwrychoedd a coed wedi cael ei ddinistrio er mwyn gnweud lle i beirianau enfawr trin y ddaear.
Doeddwn ni ddim yn gwybod, chwaith, bod y sgrech y coed yn chwarae rhan mor sylweddol. Roedd
erthygl yn Y Guardian ym mis Medi, yn esbonio’r perthynas rhwng yr aderyn a’r coeden: mae’r aderyn yn bwyta’r mes, a felly yn cuddio nhw yn y ddaear, ac yn eu plannu. Ond mae’r perthynas mwy gymleth na hynny, fel mae'r erthygl yn dweud.
Felly dwi wedi bod yn rhoi mwy o sylw ar y dderw sydd o’r gwmpas ni. Does dim gymaint a hynny chwaith. Ond fel mae hi’n digwydd, yn ymyl (ac yn ) coed derwen gwelais screch y coed ryw fis yn ol. Dwi wedi bod yn trio cael llun da o’r aderyn hardd yma, ond maent yn ofnadwy o swil. Llwyddais i gael ryw fath o lun, dyma fo.
A dyma’r coeden.
Mae stâd o dai rŵan yn eitha agos, a mae o’n edrych fel bod y goeden unwaith yn rhan o wrych. Ond pan adeiladwyd Milton Keynes, yn ffodus, diogelwyd y gwrychod, pan oedd yn bosib. Ac ar ochr arall y dderwen mae lôn bach, a mae’r gwrychoedd bob ochr yn eitha trwchus. Ac yn ddiddorol, mae’r fan yma yn denu llawer o adar bach fel y titw gynffon hir a'r llinos werdd.
Tybed ydy’r derw gyda’r trychfilod i gyd yn cael effaith yn ogystal a’r gwrychoedd?
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home