Ailddysgu

Tuesday, 25 February 2020

Cerdded yn lleol

Dwi wedi bod yn gwylio’r gyfres Am Dr ar S4C.  Reality TV eitha ysgafn lle mae 4 cystadlwyr yn cynllunio taith cerdded ac yn paratoi picnic – ac ar ol mynd ar y taith mae’r cystadlwyr yn rhoi marciau am y ‘dro’. Dau gystadlwyr o’r de a dau o’r gogledd – a syniadau da am lle i fynd am dro.

Mae cerdded wastad wedi bod yn bwysig i fi.  Pan oeddwn yn fach roeddwn yn mynd am dro gyda Nain o’i tŷ hi a dros y cae gyferbyn a wedyn ar lonydd bach tuag at Llandwrog lle bu Nain yn byw cyn symyd i Ffrwdcaedu, dim rhy bell o Bontnewydd.  Hefyd roedd cerdded yn ffordd hawdd o deithio: cerdded o fy nhŷ i weld Nain, neu cerdded i fferm fy ewythr, Caemabynir, ar y lôn fawr o Gaernarfon.  Roedd y ddau siwrnau bron yn dair filltir a felly yn cymryd dipyn o amser.  Ac ar fore dydd Sul, roeddwn yn mynd am dro dros y Foryd…

Pan es i’r prifysgol, dysgais bod ‘na ffordd arall o gerdded, ar llwybrau a oedd yn dringo i’r bryniau yn y Peak District.  Ac ar ol gadael, dyna dechrau teithiau cerdded dipyn hirach.  Ac am flynyddoedd roeddwn yn mynd ar daith cerdded bron bob blwyddyn am wythnos neu 5 diwrnod. Ac efallai dof yn ol i hyn mewn post yn y dyfodol. Y dyddiau yma, dydy’r teithiau cerdded hir ddim yn digwydd mor aml, ond dwi’n cerdded bob dydd yn lleol.  

Y trefn ydy fy mod yn mynd am dro ar draws y comin bob dydd, bron.  Y dro gynta cyn brecwast, a wedyn fel arfer, rywbryd yn y prynhawn neu dipyn yn hwyrach.  A. ia, weithiau dan ni’n mynd rywle gwahanol.  Dwi’n mwynhau gweld y comin yn newid trwy’r tymhorau a gweld pa adar ac annifeiliaid sydd o gwmpas.....ond yn ddiweddar dwi wedi cael digon o’r tywydd gwlyb gwyntog.  Ddoe, roedd hyn yn oed y ci yn gwrthod mynd ry bell yn y glaw.

Ond mae bore ’ma wedi bod yn haelog, a mi fues yn chwarae mîg gyda cnocell y coed, doedd yn amlwg ddim isio i fi dynnu ei lun.  Dyma fo yn hedfan i ffwrdd.


A hefyd es i chwilio i weld os oedd y dylluan fach o gwmpas o hyd: maent yn tueddu i aros yn yr un lle, neu yn agos, ac oedd, mi oedd o (neu hi) yn ei goeden arferol - ond dim digon agos i gael llun da.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home