Ailddysgu

Thursday 23 April 2020

Sylwi

Un o’r canlyniadau Corona i fi ydy treulio llawer mwy o amser yn yr ardd ac yn sgil hynny, sylwi ar pethau na dwi ddim wedi gweld yn iawn o’r blaen.  Er bod pawb dan y ‘lockdown’, mae profiadau unigolion a teuluoedd yn wahanol iawn.  Dwi’n ffodus iawn, yn byw mewn dref bach gyda’r cefn gwlad pum munud i ffwrdd, a gyda gardd mawr.  Dwi ddim yn gweithio mewn ysbyty neu cartref henoed a does neb yn fy nheulu yn sâl neu wedi marw.  Wrth aros gartref dwi’n garddio a mae’r haul wedi bod yn tywynnu bron drwy’r amser.

Er fy mod i’n hoff o arddio, does byth digon o amser.  A bob blywyddyn y blaenoriaeth ydy’r llysiau (a’r ffrwythau i ryw raddau) felly doeddwn i ddim wedi sylwi faint roedd yr alium bach gwyn wedi cymryd drosodd a lledenu i bob man tan nes i sylwi bod yr iris bron wedi cael ei boddi.  iris yn yr ardd pan ddaethon ni yma tri deg mlynedd yn ol (mae sgwennu hwnna yn gwneud i fi deimlo’n hen iawn).  Felly es amdani i dynnu’r planhigion bach allan - gymaint a medraf.  Wedi bod ati fel lladd nadroedd - a dwn i ddim os byddaf yn llwyddo.  Maent yn blanhigion llwyddianus ofndadwy - wedi dod i’r ardd mewn paced o alium cymysg - cefais fel anhreg dwi’n meddwl.  Hen dric sal o rhoi’r blodau yma mewn unryw gymysgiad.  Wedi edrych ar y we, mae’n amlwg bod y blodau yma yn adnabyddus:


(Yn y llun mae nhw yn y gornel chwith ar y gwaelod - ond dwi wedi cael gwared o’r ran fwyaf yn y bordor yma.)
“Not all allium varieties are well-behaved. Some become weeds that are nearly impossible to get rid of, especially in mild climates. The bad news is that dormant bulbs can remain in the soil for up to six years. The biggest offenders are wild allium (Allium ursinum), wild garlic (Allium vineale), and three-cornered leek (Allium triquetrum). All three spread like wildfire, quickly choking out gentler plants that you try to establish in your garden. There’s really no easy answer when it comes to controlling allium plants. Be patient and persistent, as it will probably require several go-rounds. Oregon State University says to expect the process to take a minimum of three or four years, and maybe even more.”
Felly bydd digon o waith am flynyddoedd! Ond mae planhigion eraill yn mynnu tyfu ym mhobman hefyd.  Euphorbia ydy yn ohonnyn nhw (hefyd yn y llun) a hefyd un fath o glychau’r gog (spanish bluebell).

A mae’r metaphor yn addas i’r feirws hefyd, dwi’n meddwl.  Dan ni ddim yn sylwi ar y canlyniadau o’r ffordd dan ni’n byw - hedfan dros y byd, cau allan neu dinistrio natur, llygredd - maen nhw i gyd yn wneud o’n haws i’r feirws lwyddianu a lledaenu.  Tybed os byddan ni’n newid mewn ffordd da ar ol hyn?  Gobeithio wir.  Dan ni wedi darganfod ei fod yn bosib i lawer ohonon ni gweithio o gartref llawer mwy na sydd wedi digwydd yn y gorffenol a mae’n braf cael llai o geir o gwmpas, ac yn fama, dim swn y traffordd ym mhob man.

A dyma rywbeth arall nes i sylwi arno tra roeddwn yn brwydro yn erbyn yr alliums: iar bach yr ha glas - holly blue.  Dwi ddim yn cofio eu gweld nhw o’r blaen - mae’r glas yn lachar ond dach chi ond fel arfer  dach chi ond yn gweld y lliw pan mae nhw’n hedfan.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home