Ailddysgu

Wednesday 20 May 2020

Bore gynnar yn y tŷ gwydr,

Bore ddoe penderfynais mynd ati yn y tŷ gwydr, i symud y tomatos a oedd wir eisiau cael mwy o le.  Ers ychydig of flynyddoedd rŵan, dwi’n defnyddio system hydroponics a phrynias o Greenhouse Sensation, cwmni Brydeinig sydd yn dda iawn. Beth bynnag, am fod y dydd am fod more boeth, rhaid gwneud hyn yn eitha gynnar, neu yn hwyr.  Gan fy mod yn deffro’n gynnar, a wedi blino gyda’r nos, dyna lle ’roeddwn 6 o’r gloch yn bore. A dym nhw.



Ond mae’na fanteision i’w gael am fod allan yn gynnar.  Dyma gwyfun a oedd yn y tŷ gwydr dros nos. Scarlet tiger moth.  


(Teigr yr ardd ysgarlad?) 
Gwelais yr un gyntaf dwi erioed wedi gweld, llynedd, yn yr ardd.  Dydy’r llun ddim yn dda - oherwydd ei fod yr ochr arall o’r gwydr, ond maent yn hardd ofnadwy. Mae’r llun yma (llynedd) yn well.

 
 

A felly cefais awrun hapus - mwy nac awr - yn y tŷ gwydr yn gosod y tomatos a phupurau yn y quadgrow.  Ac wrth gnweud hynny, gwrando ar rifyn o Galwad Cynnar ddiweddar nad oeddwn wedi clywed ar BBC Sounds.  Galwad Cynnar ydy un o fy hoff raglenni - fy ffefren, dwi’n meddwl.  Ar y rhaglen yma, ymysg pethau eraill, dysgais bod eos yn medru canu mil nodyn, a chlywais yr enwau Gymraeg am lawer o flodau gwyllt. 

A fel gyda’r nos, mae’r golau yn wych yn gynnar yn y bore.  Mae’r ardd wedi bod yn hyfryd ym mis Mai  Mae’r iris (gellysg?) wedi bod yn wych, a’r peony, a mae bysedd y cŵn allan rŵan. 


Mae na ddigon o chwyn, hefyd, yn enwedig yn y rhan o’r ardd lle mae’r tatws a’r ffa llydan yn tyfu. Ty hwnt i’r gwely mae llwyth o las y gors a chwyn ond wrth gwylio gymaint o wenyn o gwmpas, dwi am ei adael am dipyn.




A wedyn am dro ar y comin.  Hapus i gael lun o fras y cyrs. Digon ohonyn nhw ar y comin, ond bob tro dwi’n hoffi eu gweld.  Am aderyn smart!


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home