Eleni mae cornchwiiglod wedi nythu ar y comin a chlywais bod na dair gyw fach – ond d’on i heb eu gweld nhw. Felly dwi wedi bod yn chwilio – mi ŵn lle mae’r adar wedi nythu, ar cae I’r chwith o’r ddôl isa ar y comin. Ed bod y tyfiant ddim mor uchel a hynny roedd rhaid gywlio a chwilio – a bore Mawrth, dyna lle ‘roedd ddwy gyw. Mae’n debyg bod y trydydd wedi cael ei larpio…. Yn anffodus, dim ry bell oddiwrth y gornchwiglod mae nythfa brain – a mae digon o adar eraill fase’n hapus bwyta cyw bach. Gobeithio bydd y ddwy gyw yn mediru tyfu i fod yn oedlolion. Rhy bell i ffwrdd i gael llun da - a dim isio eu aflonyddu.
Mae’r comin yn hudolus ar y funud.
Mae’r gog yn galw a’r ehedyddion yn canu a’r adar mudol wedi cyrraedd. Ond hefyd mae'r adarwr a'r ffotograffwyr wedi cynyddu. Wn i ddim os oedd y ddau yma yn llwyddianus. Trio cael llun o’r gog, a oedd yn cuddio mewn coeden yr ochor arall o’r afon. A tybed pa nyth fydd y gog yn dewis? Pibydd y gwaun efalle?
Mae digon ohonyn nhw o gwmpas. Trist meddwl am yr adar bach yn brysur bwydo’r hen cyw gog fawr reibus. Ond wedi dweud hynna - fasen ni ddim yn hoffi colli’r gog - a maent yn mynd yn brin. Darllenais bod y cogydd Cymreig (a o’r Alban) yn dod yn ol o Affrica trwy’r Eidal a mae hynna yn mwy llwyddianus na siwrna’r gogydd o Loegr sydd yn dod trwy Spaen, lle mae’r tywydd boeth boeth yn gwneud y siwrna yn anoddach. A maent yn hedfan am ryw 50 awr heb cael hoe. Mae hwnna’n sownio bron yn amhosib ond ydy? Bydd rhaid tsecio eto!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home