Ailddysgu

Sunday 31 May 2020

Mis Mai eleni

A dyna mis Mai wedi darfod.  Ac am fis hyfryd - dwi’n meddwl bod bron bob dydd wedi bod yn heulog a’r rhan fwyaf yn gynnes neu boeth.  Mae’r ardd wedi edrych yn hyfryd, trwy’r mis, gyda blodau gwahanol yn dod allan yn ei tro.  










Ond mae’r dyfrio wedi cymryd llawer o amser.  Fel arfer dwi ddim yn dyfrio’r bordors lle mae’r blodau yn tyfu, ond y llysiau (a byth yn dyfrio’r lawnt).  Ond eleni ar ol clirio allan yr alliums roedd rhaid rhoi phlanhigion eraill i fewn, a felly roedd rhaid dyfrio - er bod un bordor sydd ddim wedi cael dŵr bron wedi marw.  

Ond y frwydyr fwyaf ydy gyda’r adar - adar y tô.  Roedd niferod adar y tô wedi gostwng yn sylweddol dros y flynyddoedd er bod y nifer  wedi dechrau codi eto, felly r’on i’n falch gweld teulu mawr (neu ddau) o’r adar yn yr ardd, yn bwydo ac yn nythu.  Dyma un o'r cywion..


Tan i’r moron a’r betys methu. Dim o’r planhigion yn dangos ar ol rhoi’r hadau yn y pridd.  Neu, planhigion bach bach yn dangos a wedyn diflanu.  Mae ’r adar yma yn tynnu’r planhigion allan.  Dwi erioed wedi cael gymaint o drafferth a niwed, hyd yn oed gyda’r sguthanod.  Felly mae’r brwydr ymlaen a rŵan mae rhan sylweddol o’r ardd yn edrych yn hyll gyda CDs, darnau o bapur, beth bynnag! i ddychryn yr adar i ffwrdd.  Am aniolchgar!  Maent yn bwyta’r hadau, a’r mealworms, yfed yn y pwll a wedyn yn chwilio am salad fach i orffen y wledd.  Ond gawn weld os ydynt yn llwyddianus yn y diwedd.  Dydy’r brwydr dim drosodd eto!



Yn ddiweddar, dwi ddim wedi medru cerdded yn bell - mae fy nghlun (weithiau’r ddau) yn brifo - d'wn i'm pam.  Mae o wedi digwydd yn raddol, a dwi rŵan yn disgwyl cael pelydr-x.  Felly mae rhaid cadw pwysau i ffwrdd, cyn gymaint a medraf - dim yn hawdd gan fy mod yn hoffi cerdded a garddio - ond felly dwi’n sylwi mwy ar be sydd yn yr ardd, ac yn darllen mwy.  Mae un ymwelwyr i’r ardd i’w weld yn gyson: y gwyfyn fach y soniais amdano gynt, scarlet tiger moth.  
Maent mor hardd ac yn byw ar blanhigion cyfardwf (comfrey) sydd yn yr ardd er mwyn gwneud bwyd i’r planhigion - a denu gwenyn.  Dyma’r lindysyn (dwi’n meddwl!)

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home