Ailddysgu

Saturday 20 June 2020

Cadw’r iaith yn mynd yn Milton Keynes (MK): darllen, gwrando, siarad, a sgwennu...


Dwi eisoes wedi sôn am yr her o fyw trwy’r Gymraeg (rhan o’r amser beth bynnag!) tra dwi’n byw yn Milton Keynes (MK), ar y postiau blog - ond ar y funud dwi’n methu darganfod y rhai sydd yn sôn am y pwnc.  Diffyg ’tagio’ yn amlwg.  Felly meddyliais baswn yn sgwennu ryw bwt o ddyddiadur byr i nodi’r pethau Cymraeg dwi wedi gwneud ac am ei wneud yn ystod y penwythnos ... 

Darllenais rhai o’r blogs gynnar hefyd - a mae o’n ddiddorol edrych yn ôl a gweld y gwahaniaeth.  Pryd hynny roeddwn yn mynychu cyrsiau penwythnos (yn Ne Cymru i ddechrau) pan oedd yn bosib, a wedyn cyrsiau haf.  Yr unig cyrsiau y dyddiau yma ydy’r ysgolion undydd (Sadwrn) yn Llundain, ac wrth gwrs, gyda Covid-19 does ’na ddim un yn digwydd ar y funud. 

Ynglyn a darllen, un peth sydd wedi newid fy mywyd ’Cymraeg-yn-MK’ ydy’r clwb darllen Llundain.  Yn ddiweddar darganfais blog (2fed Mai 2012) yn son am y gyfarfod gyntaf y diwrnod cynt: Mi gawson ni drafodaeth ddifyr a diddorol neithiwr, yng nghyfarfod cyntaf y clwb darllen Llundain a gafodd ei sefydlu gan Brendan Riley - felly diolch mawr i Brendan.  Roedden wedi darllen y llyfr Y Llwybr - gan Geraint Evans a roedd bron pawb wedi mwynhau y llyfr ac yn meddwl bod safon y sgwennu, ar y cyfan, yn uchel - yn enwedig am lyfr cyntaf yr awdur.  Rhaid dweud mae o’n teimlo fel mwy nag wyth mlynedd!

Mae Huw (diolch!!) wedi cadw rhestr a dan ni wedi darllen 40 lyfr erbyn hyn.  Ar hyn o bryd, mae’r clwb yn gwneud yn dda: dan ni wedi cael aelodau newydd a symyd i gyfarfod trwy zoom yn ystod lockdown a wedi cael cyfarfodydd ychwanegol i drafod llyfrau yn gyffredin.  Ar ol cael cyfarfodydd gydag ond 5 neu chwech ohonon ni ryw ddyflwydd yn ol pryd roedd dyfodol y clwb yn teimlo braidd yn fregus, dan ni rŵan yn cael cyfarfodydd gyda 12 berson neu mwy.  Gwych.  Ac yn cyfathrebu rywfaint trwy WhatsApp hefyd rhwng cyfarfodydd, fel wnaethon ni nos Iau.  Felly mae cyfathrebiad fel hyn i gyd yn helpu cadw’r Cymraeg yn yr ymenydd.  Fel mae’n digwydd roedd cyfathrebiad WhatsApp yn fywiog ddoe, ar ol i un ohonom ddarganfod rhestr o gyfresau ditectif Cymraeg a gyrru fo i’r grŵp WhatsApp. Ar y funud dwi newydd orffen darllen Babel a wedi dechrau Wal gan Mari Emlyn a mae dau rifyn o Barn yn aros amdanaf wrth y gwely....

Rŵan dan ni yng nghanol y benwythnos (bore Sul), a dechreuodd bore Sadwrn, fel arfer, gyda “Galwad Cynnar” ar radio Cymru - un o fy hoff rhaglennau.  Ond weithiau dwi’n brysur yn gwneud pethau eraill, felly yn aml dwi’n gwrando ar y rhaglen trwy BBC sounds tra dwi’n coginio cinio gyda’r nos. Clywais rhan o’r rhaglen bore ddoe a rhan arall pan o’n i’n paratoi cinio.  Ac yn gynharach yn y dydd, wrth cael hoe i drio helpu’r clun (stori arall), des ar draws rhaglen teledu newydd sbon i fi: Natur a Ni.  Gwych!  Gwyliais dwy bennod ddoe.  Mae rhaglennau fel hyn yn agos i fy nghalon, ac yn fy ysbrydoli i sylwi ar natur yn lleol: e.e. amser cinio dydd Gwener cwrddais a ffrind am bicnic (gan gadw pellter wrth gwrs) mewn cae ryw ddwy filltir i ffwrdd o’r enw Stone Pits.  Mae daeareg y cae yn wahanol i’r ran fwyaf o MK a felly dan ni’n cael ieir bach yr ha gwahanol a hefyd tegeiriannau yn ogystal a blodau gwyllt eraill. Dyma un o'r tegeiriannau a Teo y ci yng nghanol y ddôl.



Ac ynglyn a siarad, ar fore Sul, fel arfer, dwi’n cael sgwrs gyda fy ffrind Gareth bron bob wythnos dros y ffôn.  Mae’r awren yma yn wych i’r Gymraeg (a’r cyfeillgarwch wrth gwrs!)  Un o’r pethau gorau i fy Nghymraeg, i ddweud y gwir, yn enwedig os dwi ddim wedi cael cyfle i siarad Gymraeg yn ystod yr wythnos.  (Dwi’n siarad ar y ffôn gyda ffrind arall hefyd ond ar hyn o bryd dan ni ddim yn siarad mor aml).  

A felly at y sgwennu!  Fel arfer, ar y cyfan, ond yn fama, yn y blog, dwi’n sgwennu Cymraeg.  Rheswm da, felly i ddal ati.  Mae’r proses yn fy ngorfodi i edrych pethau i fyny a gofyn cwestiynau: ydy’r gair yma yn fenywaidd, tybed?  A be ydy’r ffordd gorau o ddweud hwn?  Ac yn y diwedd mae ryw gydbwys rhwng trio cael o’n iawn, a pheidio treulio oriau yn gwneud y peth - a dwi jyst yn gobeithio ei fod yn helpu cadw a gwella fy Nghymraeg. Ac oes gennych barn, neu yn gweld cangymeriadau - plis rhowch sylw!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home