Ailddysgu

Wednesday 10 June 2020

Darllen: Babel


 Dwi ddim yn medru cerdded llawer ar y funud – mae fy nghlun yn brifo – wn i ddim pam, ac er i fi fod yn ofalus, a dwi ddim yn cerdded yn bell o gwbl o gymharu a be dwi’n arfer gnweud, dwi’n meddwl wnes i ormod ddoe – a heddiw dydy o ddim yn dda.  Felly, hoe amdani.  Dim llawer o arddio, dim mynd rownd y ganolfan garddio, ond eistedd ar y soffa (dim yn gweithio heddiw).  A felly – meddwl am gyfranu at y flog.

Yn ddiweddar dwi wedi dechrau darllen Babel gan Ifan Morgan Jones, sydd yn engraifft o agerstalwm neu steampunk.  (Wedi darllen bron hanner y llyfr rŵan).  Doeddwn i erioed wedi dod ar draws steampunk o’r blaen. Dyma un ddiffiniad: “Is-genre ffantasiol o fewn gwyddonias yw agerstalwm, lle mae technoleg a dyfeisiadau esthetig wedi'u hysbrydoli gan beiriannaustêm diwydiannol o'r 19g.”  Ond, mae  His Dark Materials gan Phillip Pullman e.e. yn cyfri fel Agerstalwm yn ogystal a rhai o waith Jules Verne a H G Wells, felly fel mae’n digwydd dwi YN gyfarwydd a’r genre- ond dim yn nabod yr enw.  Beth bynnag, mae Babel yn nofel gyffrous a chreadigol – ond eitha du, s’wn i’n dweud.  Dyma un adolygiad.

Rhaid dweud doedd hi ddim yn cydio i ddechrau a ’roedd rhaid i fi ail-afael yn y llyfr, a wedi gwneud hynny mae’r llyfr yn carlamu ymlaen.  Falle ddof yn ol i wneud adolygiad llawn wedi ei orffen.  Dwi wedi darllen nofelau arall Ifan Morgan Jones i gyd.  O be dwi’n cofio, r’oedd Yr Argraff Gyntaf, nofel ditectif yn eitha draddodiadol- ond ‘retro’ hefyd, wedi ei gosod yng Nghaerdydd yn ystod y 1920au – ac yn creu awyrgyll da o’r amser a’r lle yna.  Wedyn daeth Igam Ogam, nofel ffantasi.  Mwynhais y nofel yma ond darllenais hi amser maith yn ol – a falle bydd rhaid mynd yn ol Ii’w ddarllen eto.  

Ar ol hynny death Dadeni, gyda llawer o glod: "Dyle Dadeni neidio'n syth i flaen ciw darllenydd. Gallaf gadarnhau ei bod yn hollol wych. Un o'r nofelau gorau i fi ddarllen." (Llwyd Owen). Er hynny, rhaid dweud na wiethiodd y nofel yma i fi. Wnaeth o ddim weithio i’r adolygydd a sgwenodd yn Y Stamp chwaith: … “y peth pwysig ydi trafod os bu i’r nofel hon gyfiawnhau’r holl sôn amdai.  Mewn gair.  Naddo." er ei fod yn mand yn ei fladen i ddisgrifio'r agweddau bositif. Mae’r adolygiad yma o Dadleni yn awgrymu bod yr awdur (yn) fwy o ddyn syniadau nac ydi o yn ddyn sgrifennu yn anffodus. Ond i fi, yn sicr, yn Babel dydy hyn ddim yn wir.  Ar adegau, roedd gormod yn mynd ymlaen yn Dadeni a dydy hynny ddim yn wir (eto beth bynnag!) yn Babel.  Felly dwi’n edrych ymlaen at parhau gyda’r darllen a mwynhau gweddill y llyfr.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home