Ailddysgu

Tuesday, 7 July 2020

GŵylfforArall.

Edrych ymlaen at fwy o GŵylfforArall.  Fel arfer, yr amser yma o’r flwyddyn dwi’n edrych ymlaen at ymweliad i Gaernarfon lle mae Gŵyl Arall yn digwydd dros y benwythnos (sydd yn digwydd bod yn agos i fy mhenblwydd - gwell byth).  Ryw ddwy fis yn ol, r’oeddwn yn obeithiol: falle fase’n bosib mynd, ond yn fuan daeth yn glir na fyddai’r Gŵyl yn mynd ymlaen yn ei ffordd arferol.  Hyd yn oed tase gwestai a tai bwyta ar agor, anodd gweld sut fase’n bosib trefnu araith neu  lansiad llyfr, fel engraifft lle fase’n bosib i bobl gadw ar wahan.....

Ond mae pethau wedi symyd ar-lein.  Bythefnos yn ol gwelais gwahoddiad yn fama  “Estynwch banad a chacen, steddwch mewn cadair gyfforddus ac ymunwch â Bet Jones a Marged Tudur i ddathlu cyhoeddi PERL, nofel ddiweddaraf Bet Jones”   Ac er ei fod yn brofiad gwahanol, ces i hwyl ar brynhawn lawiog yn gwrando ar y sgwrs.  Ac eleni, mae’r Gŵyl wedi dechrau yn barod. Mae’r holl ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim - ond mae’n bosib gwneud cyfraniad hefyd.  Gwrandawais ar Elin Tomos “Russian Ffliw/Pandemic 1889-1993” a mae na digwyddiad arall nos fory.  Ond dydy o ddim cweit yr un peth a chrwydro strydoedd Caernarfon a cael mynd allan am bryd o fwyd a.y.y.b.

Ac i newid y pwnc yn hollol, dyma ychydig o luniau o bethau yn yr ardd..... Mae’r moron wedi tyfu’n dda ac yn blasu’n wych


- ond y ffa llydan yn ofnadwy eleni - y pryfaid wedi enill.   A dyma’r basil a coriander - yn gwneud yn dda yn y tŷ gwydr.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home