Ar y stryd fawr: Siop Dim Gwastraff neu Ail-lenwi
O’n i’n gyffrous ddoe i weld bod ein siop newydd wedi agor. Drws nesa i’r siop lysiau: pum munud o’r tŷ. Siop Ail-lenwi ydy hon a dwi’n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw.
(Oes treiglad yn fama tybed? Ond gyda treiglad dydi o ddim yn swnio’n iawn rywsut). Beth bynnag, bydd y siop newydd yn ei wneud hi yn haws o lawer i leihau defnyddio plastic. Felly es i yna ddoe i weld be oedd yna. Gan fy mod i’n byw digon agos es a’r jar lle dwi’n adw reis gyda fi i brynu mwy. Hawdd iawn.
Mae un siop arall yn yr ardal yma yn ail-llenwi poteli siampŵ ac er fod y siop yna wedi cae pan ddechreuodd y feirws lledaenu cadwais y boteli, felly r’oedd modd i lenwi’r rheina hefyd. Bydd o’n bosib prynu perlysiau hefyd i ail-lenwi’r poteli bach a bwyd sych fel pasta: does dim angen prynu pasta mewn plastic nag oes?
Felly edrychaf ymlaen at bywyd gyda llai plastic. Dwi’n trio fy ngorau gyda llysiau – sydd aill yn dod o’r ardd neu’r tŷ gwydr – neu’r siop lysiau drws nesa. Er fy mod i’n cefnogi’r Co-op, maent yn tueddu gwerthu'r llysiau i gyd mewn plastig.
A mae’r siop yn gwerthu siocled!! Ond dwi ddim wedi ei trio eto. (Wnes i brynu bar, wrth gwrs, ond dwi wedi llwyddo i beidio dechrau arni hyd at hyn!)
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home