Sylwi
Post byr oherwydd dwi wedi bod yn teipio gormod ac mae’r RSI yn fy mraich de wedi dod yn ol.
Ers dechrau’r cyfnod clo dwi wedi bod yn trio sylwi mwy, bob dydd, yn enwedig wrth fynd am dro gyda fy ffrind Teo (y ci).
Yn y dyddiau diwethaf mae’r cyfnod oer ofnadwy wedi troi i gyfnod gwlyb a dwi’n gobeithio bod yr adar wedi goroesi’r oerni (gyda cymorth yr holl bwyd dwi wedi rhoi iddynt!). Ar y ffordd i’r comin mae coed celyn - a rhai o’r aeron yna o hyd, ym mis Chwefror. Dyma llun ohonynt ar ddiwedd fis Ionawr – a mae rhai ar y coed o hyd.
Felly mae’n debyg eu bod wedi bwyta pethau eraill. Neu bod ’na gymaint o aeron nad ydynt wedi bwyta nhw i gyd. O be dwi’n cofio, fel arfer mae’r aeron i gyd wedi mynd erbyn hyn. Ond mae’n stori gwahanol gyda aeron eiddew.
Ac un peth arall dwi wedi sylwi. Ar lôn bach arall mae’r coch dan adain i’w gweld mewn cae ar ochr y lôn, a falle bod y faith bod ceffylau yn y cae, a felly tail yn denu pryfed (wn i ddim os ydy coch dan adain yn bwyta pryfed, ond pam lai) ond maent yn symud o’r cae i’r coed yn y lôn, i fwyta’r eiddew; un blanhigyn lle mae’r aeron ar gael yn hwyr yn y tymor.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home