Ailddysgu

Thursday, 31 December 2020

Adduniadau Blwyddyn Newydd

Adduniadau Blwyddyn Newydd? Ydach chi’n gwneud nhw? Ac os felly ydach chi’n llwyddianus?  wrth edrych yn ol,mae’r rhai dwi wedi gwneud sydd yn llwyddianus yn eitha syml. Hefyd, gwell gwneud un neu ddau yn hytrach na llawer mwy: haws i’w cadw. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r ran fwyaf i’w wneud a byw bywyd mwy gwyrdd a dyma dau engraifft o adduniadau sydd wedi gweithio yn eitha da.  1) peidio defnyddio bagiau te gyda plastig ynddo nhw.  Pam ar y ddaear bod ’na blastic yn te? Am bod y ffordd o wneud i’r bagiau sticio yn cynnwys plastig yn y broses - a wedyn mae’r microplastics yn mynd i’r compost.  

Doedd hwn ddim yn hawdd i ddechrau efo o; dwi ddim yn siopa mewn archfachnadau mawr yn aml ac yn sicr dydy ein co-op bach ni ddim yn gwerthu te heb plastic(a dwi’n yfed te decaff hefyd). Es i siopa yn Milton Keynesi weld be oedd ar gael - a mae na un: Clipper Organic, ond dydy hwn ddim ar gael yn lleol.  (Gwelir gwybodaeth yma. Felly dwi wedi dechrau defnyddio te go iawn o’r cwmni yma:  sydd yn dod trwy’r post heb cael ei lapio mewn plastig.  A fel arfer dwi’n defnyddio infuser ond weithiau tebot!   

Dwi erioed wedi bwyta llawer o gig  a ryw dair flynedd yn ol penderfynais bwyta llai, a wedyn dwy flynedd yn ol penderfynais baswn yn trio mynd heb cig.  Mae hwn wedi bod yn eitha llwyddianus a dwi ddim yn poeni gormod os dwi yn bwyta cig o bryd i’w gilydd (yn achlysurol iawn, oherwydd, er engraifft os ydwyf yn bwyta allan a dwi wir ddim yn hoffi be sydd ar y fwydlen llysieuol).  Ond dwi yn bwyta pysgod, fel arfer eog, a mae’n bosib prynu eog sydd ddim wedi ei ffarmio yn y farchnad ffermwyr lleol sydd yn dod bob mis.  Gyda’r siop refill wedi agor bydd hefyd yn bosib prynu nwyddau fel glanhawyr heb iddynt bod mewn plastig - gwych.

Ond be am eleni?  Mae na sawl beth fase’n dda i’w gwneud -neu beidio!  Ond dwi wedi dewis trio gwneud myfyrdod yn fwy aml.  Fel arfer dwi’n gwneud un bach (am bym funud) cyn mynd i’r gwely ond yn aml dwi’n deffro yn y nos ac yn methu cysgu wedyn.  Felly, dwi am drio gwneud fyfyrdod (neu ymarfer ymlacio) am ryw ugain funud ar ol cinio hanner dydd - falle bydd rhaid newid yr amser dydd Sul.  Gawn ni weld sut bydd o’n mynd!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home