Ailddysgu

Saturday 30 January 2021

Y goedwig

 


  1. Lle mae’r amser yn mynd, tybed?  Heddiw, a finna’n flinedig ar ol methu cysgu neithiwr , nes i ganslo cael cinio gyda ffrind (brechdan tra am dro) i drio dal i fyny, ac ar ol mynd a’r ci am dro, trio tynny lluniau bywyd gwyllt (dim llwyddiant o gwbl) a gnweud apwyntiad meddygol a chael paned, dyma fi, gyda chyfarfod mewn awr, yn trio sgwennu post ar gyfer fy mlog. Ac wrth edrych yn ol, gwelaf fy mod heb gyfrannu at y blog am dros bythefnos, sydd ddim yn dda!.  A dyna sut mae’r dyddiau yn mynd, weithiau, (onibai fy mod yn y gwaith) ar bethau bach, rhai yn angenrheidiol (coginio, llnau, colchi llestri, ymarfer corff), rhai yn bleserus (dechrau nofel newydd, cyfarfod y clwb darllen Cymraeg) a.y.y.b.

     

    Ond yr wythnos diwethaf, ar ddydd Fercher, gwnaethom swigod newydd ‘gwarchod plant’ – i drio gefnogi fy merch yng nghyfraith sydd yn cael hi’n anodd gydag addysg gartref a wir isio (ac angen) hoe bach.  Aethom i’r goedwig bach hynafol sydd ddim yn bell i ffwrdd (tair milltir  efallai) gyda’r wyrion: Teigan, sydd yn 7 a Thomas, sydd yn bump oed. 



     Mae’r llecyn yma wedi bod yn goedwig am o leia saith can mlynedd.  Heddiw, mae cynllun i’w reoli a chadw fel lle sydd mor llawn a phosib o wahanol bywyd gwyllt, ac sydd yn cynnal nifer o rywogaethiau, gwelir https://www.theparkstrust.com/media/2458/linford-wood-management-plan-july-2014-hires.pdf a hefyd, lle i oedolion a phlant gael mwynhad.  I blant bach mae coedwigoedd yn nefoedd, yn enwedig os oes llefydd gwlyb.  (A mae pobman yn wlyb ar y funud).  Fel arfer dan ni’n ymweld a’r goedwig yn yr haf.  Ond mae hi’n hardd iawn yn y gaeaf, pan dan ni’n medru gweld siap pensaernïol y coed.  Mae’r rhan fwyaf o’r coed fawr yn goed derw neu ynn – ond wrth gwrs mae’r coed ynn yn dioddef o’r “die back”.  Mae’n bwysig cadw rhai o’r coed sydd wedi marw (mae llawer o rywogaethau eraill yn defnyddio coed wedi marw), a mae rhai yn cael eu troi i fod yn gerfluniau.








0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home