Adar ar y comin
Gyda dipyn llai o law wythnos yma dwi wedi mentro’n bellach ar ein comin, hyd at yr afon, er ei fod yn fwdlyd ofnadwy. Mynd am dro gyda ffrindiau bore Llun a’r haul allan, a gweld hwyaden ddanheddog ar yr afon: goosander yn Saesneg. Faswn ddim yn dweud ein bod ni yn ein gweld nhw trwy’r amser yma, ond dydyn nhw ddim mor anghyffredin a hynny chwaith. Fel rhywun o’r wythdegau gyda’r gwallt ’pync’!
Heddiw mae hi wedi bod yn niwlog, ond roedd ddoe yn ddiwrnod bendigedig ac yn heulog trwy’r dydd. Roedd y cudyll coch yma wedi bod yn hela ac yn bwyta ei chinio yn y llun cyntaf - iar ydy hon, a welais hi wedyn hefyd cyn gorfod troi am adre’ ac ailddechrau ar fy ngwaith.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home