Ailddysgu

Wednesday 13 January 2021

Tri peth i’w gwneud ar ddiwrnod glawiog


Dwi ddim yn gweithio ar ddydd Fercher felly siawns i ddal i fyny, a bydd, bydd y sugnydd llwch (wir, ydy pobl yn defnyddio’r geiriau yma, neu fel fi just yn dweud hwfer?) yn cael ei ddefnyddio nes ymlaem.

1)  Gwaith cartref o’r wers Cymraeg  (dach chi’n cofio Y Wers Gymraeg gyda Hefin - ar gael ar you tube yn fama? poenus ond digri. (Dim byd debyg i’n gwersi ni)

2) Cael cinio bach mewn caffi bach yn y dre sydd yn agor ar gyfer 
)
tecawê 
gyda Teo’r ci - ac eistedd tŷ allan oherwydd cofid 

3) A wedyn cerdded yn y fynwent yn y glaw.  Dwi’n trio cael llun dda o’r ddriw bach - sydd ddim yn hawdd.  Dim hwyl arni hi eto, ond gaeth y ci fwynhad mawr wrth rhedeg ar ol wiwerod.

Ac os oes amser ar ol, mynd trwy’r tun hadau i weld beth sydd angen ar gyfr eleni, darllen, a dal i fyny ar iPlayer.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home