Ailddysgu

Saturday 30 October 2021

I fewn ac allan

Trwy’r Hydref dwi wedi bod yn meddwl: wel dydy o ddim mor ddrwg: chai dyddiau heulog, llywiau gwych ar y coed, ond rwan, gyda’r amser yn newid, dan ni ar fin gaeaf go iawn.  Mae cryn dipyn o law wedi syrthio, yn enwedig ar ddydd Gwener.  Felly roedd o’n amser da i fynd i weld arddangosfa o luniau Laura Knight.  Ac am arddangosfa hefyd.  Er fy nghwilydd, wyddon i lawer ddim am yr artist yma a roeddwn wedi fy syfrdanu: gymaint o amrywiaeth o ran arddull a chynwys, a mor hardd!


Dyma rhai roeddwn wir yn hoffi:



dwi ddim yn cofio teitl hon, ond portread o tad a’i ferched ydy hon, a mor naturiol, bron yn gyfoes rywsut. (llun).  


A dyma llun gwbl wahanol:



tirlun o ran o Lundain.  Mae ’na botreadau gwych hefyd:

 

Erbyn prynhawn ddoe roedd yr haul yn gwenu a felly es am dro cyn gweithio dipyn ar yr ardd, sydd ddim yn cael y sylw mae hi angen.  Dwi’n hoff o’r llwybr bach yma sydd yn arwain at llyn bach.  




A wedyn amser i ddechrau cael dipyn o drefn ar yr ardd a’r tŷ gwydr.  Dwi wedi casglu’r afalau i gyd rŵan.  Dan ni’n dechrau’r tymor gyda “Discovery”: afal cynnar iawn, ond dim yn cadw.  Wedyn mae’r Laxton Superb, coeden yng nghanol yr ardd llysiau yn ffrwytho; mae blas hyfryd ar y rhain, a wedyn yn hwyr, yr afalau coch - ond dwi wedi anghofio enw’r coeden!  Heblaw am y Discovery, sydd ddim yn cadw, mae’r ddau arall yn cadw am dipyn, ond rhaid cael afal dda iawn i gadw.  Erbyn hyn, mae’r adar wedi dechrau pigo tyllau ynddyn nhw, yn anffodus.

 



Ond dipyn bach o amser wedyn i glirio blanhigion sydd wedi gorffen, fel y courgettes, a chlirio yn y tŷ gwydr hefyd.  Mae’r ciwcymber bron wedi gorffen a mae lwydni i’w gweld arni hi.  Felly bydd yn gwneud lles i’r compost .  Llawer mwy o waith i’w gnweud on bydd rhaid aros rŵan tan prynhawn yma. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home