Ailddysgu

Friday, 26 November 2021

Ailddarllen

Ydych chi’n hoff o nofelau hanesyddol?  Dwi’n eitha hoff o’r nofelau yma yn y Gymraeg, ond dim gymaint yn y Saesneg, er, dwi’n hoff iawn o nofelau  C J Samson a Robert Harris.  Yn y Gymraeg, ymysg y nofelau hanesyddol dwi wedi mwynhau, mae  rhai o nofelau Gwen Pritchard.  Dwy ffefryn ydy Pieta a'r dilyniant  Barato (er ie fod yn amser hirn ers i fi ddarllen Pieta).  Rhois Barato i ffrind i ddarllen - wel, dyna be o’n am wneud, ond dyma hi’n dod yn ol yn y post!  Mae llyfrau Cymraeg yn dipyn o destyn yn ei tŷ ni.  Dwi’n eu prynu nhw, fel arfer, i gefnogi awduron Cymraeg, a gan fy mod yn ddarllenwraig frŵd, mae’r nifer o lyfrau yn cynyfu yn gyflym, a fy ngŵr yn mynnu nad ydw isio’r holl lyfrau.  Ond dwi ond yn cadw’r rhai dwi am ailddarllen.

Gyda llyfrau Saesneg, dwi’n trio eu benthyg os bosib (er bod pethau wedi mynd braidd ar chwâl ers Cofid a’r llyfrgell wedi cau er ei fod wedi ail-agor ran), neu yn eu brynu’n ail-law, a wedyn maent yn mynd yn ol i siop elysen. Ond dydy hynny ddim yn bosib gyda llyfrau Cymraeg, gan fy mod yn byw yn Lloegr.  Felly, gan nad wyf yn mynd i Gymru llawer ar y funud, o bryd i’w gilydd dwi’n anfon becyn o lyfrau Cymraeg i ffrindiau yng Nghymru: i ddarllen neu rhoi i rywun arall neu i siop elysen.  Ac i ddod yn ol at Barato; dwi wedi ailgydio ynddi hi a mae hi wedi cydio eto!  Dwi’n tueddu i anghofio stori llyfrau a felly mae ailddarllen fel darllen o’r newydd.  Dwi wedi cyrraedd tudalen 152 yn y llyfr, ac er bod pytiau yn gyfarwydd, dwi ddim yn cofio’r stori!

A dwi’n medru gwneud hyn hyd yn oed gyda llyfr detectif (rhywbeth arall dwi'n hoffi!). 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home