Cynllunio ar gyfer bywyd gwyllt yn yr ardd
“Wyt Ionawr yn oer
A'th farrug yn wyn………..”
Wrth edrych yn ol, gwelaf fy mod heb sgwennu post blog ers mis Tachwedd, a rŵan dyma ni ym mis Ionawr. A fel mae’r hen gerdd yn adrodd, mae hi wedi bod yn oer iawn; sydd yn beth da, dwi’n meddwl! (Er nac ydy yn oer pellach). Ddyle’r gaeaf fod yn oer, ond gyda newid hinsawdd, yn aml mae hi rhy gynnes. Ac i’r mwyafrif, dwi’n tybed, mis i oroesi ydy Ionawr, gydau dyddiau byr a Nadolig wedi cael ei anghofio. Ond dwi’n eitha hoff o fis Ionawr. Er ein bod yn cael dyddiau llwyd a gwlyb, ar ddiwrnod heulog, mae’r golau yn fendigedig, a mynd am dro yn bleser pur.
A gyda’r nosweithiau hir (neu diwrnodau gwlyb) mae cyfle i gynllunio. Y cynlluniau dwi’n gwneud mwyaf aml ydy ynglyn a’r ardd. Yn raddol, dwi’n gnweud newidiadau yn yr ardd i’w gwella ar gyfer bywyd gwyllt. Mae bywyd gwyllt wastad wedi bod yn bwysig yn yr ardd, a dwi wedi trio cynnwys planhigion sydd o fudd i fywyd gwyllt. Ond yn y blynyddoedd ddiweddar, wrth dallt pa mor bwysig ydy peillwyr, a’r problemau sydd ganddyn nhw, dwi wedi bod yn plannu ar eu cyfer nhw. Llynedd, gyda’r wyrion, plannais flodau ar gyfer gwenyn mewn darn bach o’r ardd llysiau. A hefyd tyfais lawer o flodau sydd yn dda iawn i wenyn yn gyffredinol.
2 Comments:
Mae hefinwydden -Amelanchier- yn fan hyn ac mae hi'n hardd iawn am fisoedd lawer, rhwng blodau'r gwanwyn;ffrwythau'r haf; a dail amryliw'r hydref. Dylia bod un ym mhob gardd!
Helo, dwi wedi esgeuluso'r blog yma ond dwi'n ol rwan ac yn gobeithio postio yn amlwch - ac yn gobeithio darganfod hefinwydden (amelanchier) ar werth. Maent wedi bod yn annodd i ffeindio yn fan hyn!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home