Y cudyll coch
Ar ol tywydd bendigedig am ryw wythnos a dros y Pasg, mae’r cymylau wedi dod heddiw. Dros y tywydd braf dwi wedi bod yn cerdded ar y comin fel arfer; ac yn medru mynd yn eitha gynnar yn y bore.
Dydy o ddim yn hawdd gweld yr aderyn o gwbl. Pan tynnais y llun gynta, y ceiliog oedd yn eistedd yn y nyth,
ond ers hynny, yr iar dwi wedi gweld. Prynhawn ddoe, a bore heddiw, doedd yr iar ddim ar y nyth, ond y bore ’ma, roedd y ceiliog yn cadw llygad barcus arna i pan cerddais heibio.
Dwi’n gobeithio byddant yn llwyddianus a bydd mwy ohonon nhw cyn bo hir.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home