Yn yr ardd - Ebrill 1af
Ar ol tywydd mor braf a chynnes hyd at dydd Llun diwetha, mae’r tywydd wedi troi yn oer gyda cawodydd o eira neu eirlaw, neu glaw. Ond wrth gwrs, gyda’r tywydd braf, blodeuo wnaeth y goeden gellyg ac y goeden eirin gwlanog. Gobeithio bydd na ffrwythau gyda’r tywydd mor oer. Mae rhai o’r bylbiau ( a oedd yn edrych mor dda) wedi mynd drosodd.
Ond gan ei fod mor oer, yn y tŷ gwydr fues i am awren prynhawn yma, gyda’r ffenstri a’r drws ar gau.
Rhois hadau moron i fewn ym mis Chwefror, a maent wedi dechrau dangos;
felly mae rhes ychwanegol wedi mynd i fewn rŵan a mae’r letys a’r rocet yn dechrau tyfu hefyd. Ond y cnwd gyntaf go iawn bydd y ffa a chafodd ei blannu yn ol ym mis Rhagyr a rhes bach hefyd ym mis Ionawr, credwch chi byth.
Daeth y llyffantod yn ol i’r pwll ym mis Mawrth, ac erbyn Mawrth 12fed, roedd o fel ryw ŵyl neu ffair yn yn pwll, a medraf ond gobeithio bod y penbyliaid bach bach wedi goroesi tywydd mor oer.
Yn aml maent yn mynd i lawr i’r dyfnder, ond gawn ni weld. A daeth Speic yn ol hefyd i’r ardd gefn. I ddweud y gwir, dwi’n amau mae draenog gwahannol sydd yma – ond mae’n dda gweld draenog beth bynnag. Yn yr ardd ffrynt mae dau lwynog wedi dod o bryd i’w gilydd: un dew ac un mwy tenau.
Amser da ydy’r Gwanwyn.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home