Fel dwi wedi sgwennu yn y blog yma o’r blaen, dwi wedi bod yn trio datblygu’r ardd i fod yn gyfeillgar i fywyd gwyllt, a, dwi’n meddwl, wedi llwyddo cryn dipyn. Dwi ddim yn bwydo adar cweit gymaint yn y gwanwyn a’r haf (mae ’na ddadlau am hyn) er dwi yn cadw ymlaen gyda llenwi’r ymborthwyr. Un anifail sydd yn elw ydy’r llygoden: mae na sawl lygoden yn byw yn yr ardd ac yn bwydo ar be mae’r adar yn gollwng.
Dim llygod y tŷ ydy’r rhain ond llygod y coed, sydd yn eitha niferus (er bod llygod bach (house mice) yn byw yn yr ardd hefyd).
Anifail arall y yr ardd ydy’r draenog. Mae’n fraint cael ei weld yn yr ardd, a dwi wedi bod yn eu bwydo am ychydig. Yr wythnos yma gwelson dau yn caru, ond dim yn paru. Gawn ni weld - dwi wedi roi camera trap allan wrth ymyl y drws cefn lle maen nhw’n cael eu bwyd. Bydd llawer o luniau o’n coesau ni yn mynd yn ol ac ymlaen, ond gobeithiaf bydd lluniau’r draenogod hefyd.
Ar y comin, dwi wedi clywed y gog sawl gwaith, sydd mor braf, ond dim wedi ei gweld, eto. Dwi hefyd yn clywed crawc y gigfran a welais un wythnos yma. Dan ni braidd yn ddwyreiniol, ond mae’r gigfran yn lledu a mi fase’n dda tase fo’n nythu yma.
A neithiwr, llwyddiais i gael lun o’r llwynog sydd yn byw wrth ymyl y rhandir lleol. Dydy’r llun ddim mor siarp a faswn yn hoffi, oherwydd roedd yn eitha hwyr a’r golau ddim cweit mor dda. Dwi wedi ei weld o’r blaen, a mae na lwynogod bach hefyd, a gobeithio byddaf yn eu gweld yn y dyfodol.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home