Gwylio Adar yr Ardd
Mae penwythnos “Gwylio Adar yr Ardd” (GAA) wedi cyrraedd. Fel arfer, dyma’r penwythnos lle mae’r adar yn penderfynu mynd rywle arall. Falle i’r gerddi eraill sydd yn bwydo adar hefyd. Dwi wedi mynd trwy’r cofnodion a dyma be ddigwyddodd llynedd:
“Gwelais dwy fwyalchen (ceiliog ac iâr); dau robin coch, 1 titw tomos las, pioden, jac-y-do a llwyd y gwrych. Tynnais luniau trwy'r ffenestr oherwydd roedd yr adar yn eithaf ofnus, felly dydy'r lluniau ddim yn dda iawn.”
Ac wrth edrych yn ol gwelais nad ydwyf wedi gwneud llawer o gofnodau o’r GAA yn y blog. Dim byd rhwng llynedd a 2015! A dyma’r sefyllfa deng mlynedd yn ol:
“Heddiw, gwelais 2 ddrudwy, 1 robin goch, 2 fwyalchen, 2 titw Tomos las, a 2 llwyd y gwrych. Dim byd arall yn dod i mewn i’r ardd dros yr awr dan sylw.
Ond mi wnes i wneud nodyn o’r adar a welais ben bore wrth gerdded y ci. Dyma’r rhestr:
corhedydd y waun; titw tomos las, titw mawr, brân, crëyr las; gwylanod ben du, jac y do, siglen fraith, drudwy, gnocell werdd, hwyaid gwyllt, ji-binc a glas y dorlan.”
Wel mae glas y dorlan yn eithaf arbennig. Dim bob diwrnod dwi’n gweld glas y dorlan!
Ond yn ôl at heddiw. Treuliais bron awr yn gwylio’r trwy ffenestr a dyma be welais:
2 bioden, 2 fwyalchen, 2 ddrudwy, 1 robin goch, 2 jac-y-do, un titw Tomos las a 5 titw cynffon hir.
Mae hi’n amrywio gymaint. Fel arfer byddaf hefyd yn gweld adar y to a thitw Tomos mawr ond mae hi’n braf gweld y titw cynffon hir. Y rhain ydy’r delaf o’r ymwelwyr, dwi’n meddwl.
Mae’r holl peth yn cymryd dipyn o amser – dim yr awr dach chi’n treulio yn gwylio’r adar ond yr amser yn gwneud yn sicr bod yr ymborthwyr yn lan ac yn llawn o fwyd.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home