Ailddysgu

Tuesday 27 September 2022

Sgwarnogod a cornchwiglod

 Sgwarnogod a cornchwiglod

 

Ychydig o flynyddoedd yn ol roeddwn yn gweld sgwarnogod yn yr ardal yma yn eitha aml, ond dim bellach.  Efalla bydd rhaid mynd yn ol i’r llefydd dwi wedi eu gweld o’r blaen a chwilio eto.  Ond doedd dim rhaid chwilio dydd Sul a bore Llun.  Roeddwn yn treilio’r nos Sul yn Elmley, gwarchodfa natur ar ynys Sheppey, a wedi gwirioni gyda’r lle.  Cefais ond dipyn dros diwrnod yna: cyrraedd ar fore dydd Sul a gadael ar ol cinio dydd Llun, ond mae gymaint i’w weld yna.

 

Roedd y dydd Sul yn heulog ac wrth cerdded i lawr llwybr heibio gwersyllfa bach (lle dach chi’n medru aros) roedd y coed yn llawn o aeron a hefyd yn llawn o weision y neidr.  


Gwych!  Ond dwi am ffocysu ar ond ychydig o rywogaethau.  Un ydy’r sgwarnog.  Dwi ddim yn siwr os dwi’n hoff o’r llun yma gyda’r clustiau yn mynd i wahanol gyfeiriadau, ond doedd dim digon o amser i gael fy nghamera allan i gael y llun gorau: sgwarnog yn rhedeg i fyny’r lôn yn syth ataf.  



Maent allan llawer mwy yn y nos, a gwelais ychydig ohonynt hefyd yn y bore gynnar, dipyn ar ol saith o’r gloch, bore Llun.  Yn ystod y dydd mae nhw’n swatio i lawr.  Yn bendant byddaf yn chwilio amdanynt yn lleol o hyn ymlaen.

 

Aderyn arall dwi ddim wedi gweld llawer yn fama yn ddiweddar ydy’r tylluan wen.  Annifail arall eiconig, ’swn i’n dweud.  Roedd yn rhy hwyr i gael llun da gyda’r golau yn mynd, ond braf gweld hi’n hela - a cudyll coch yn brysur trio dwyn be oedd hi wedi dal!


 

A’r cornchwiglod!  Mae cornchwiglod wedi dod yn brin dros y blynyddoedd.  Ond roeddwn i yn medru gweld un yn yr ardd lle roedden yn aros, a roedd heidiau yn hedfan.  Cawson gwybod eu bod wedi cael tymor llwyddianus iawn.




 A’r uchafbwynt olaf oedd gweld tylluan clustiog hir - ond wedi dweud hynny r’oedd yn anodd iawn i’w weld yn dda - roedd yn cuddio, yn y dydd, tu ol i dyfiant.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home