Ailddysgu

Monday 24 July 2023

Yr ardd sych


O’r diwedd, dan ni wedi cael glaw sylweddol.  Ryw wythnos yn ol, cawsom ddiwrnod o law a lenwodd y pethau-dal-dwr, a’r pwll, a rhoddodd dwr i’r blanhigion i gyd, ond wedyn daeth gwyntoedd cryf ac ar ol ryw bedair diwrnod, roedd pobman bron yn sych eto.  Ond dydd Sadwrn, roedd hi’n bwrw eto a heddiw mae him am wneud yr un peth, felly dwi’n siwr bydd y blanhigion yn gwerthfawrogi hynny.  A be a wnelo hyn a'r dylluan fach?  Wel, mae'r teulu ( o dylluanod bach) yn byw ond ryw 15 mumud (cuerdded) i ffwrdd a dwi'n sier byddan nhw'n falch o'r glaw.  Bydd hela am bryfed genwair llawer yn haws! 

 Mae’r ardd yma wedi dod yn le anodd i’w edrych ar ei hol mewn un ffordd.  Mae’r pridd yn hawdd ei weithio, ond yn colli lleithder mor gyflym.  Felly mae’n bwysig i adeiladu pridd sydd yn medru gwrthsefyll sychder, gyda tail a chompost.  Wel, mae’r tail yn mynd i fewn i’r compost - dan ni’n ffodus bod na ddigon o geffylau o gwmpas, felly pan dwi’n dod ar draws tail ar y llwybr neu ar y comin, dwi’n ei chasglu o a mae o’n help mawr i’r compost.  

 

Gyda’r glaw yn disgyn dydd Gwener, treuliais i amser yn y tŷ gwydr yn trio cael ryw drefn ac o’r diwedd mae’r planhigion yn dod ymlaen er ei fod hi braidd yn oer ar y funud!  (Cyfle felly i blannu mwy o hadau letys sydd ddim yn llwyddo yn dda yn yr haf).  


Mae’r aubergines a’r ciwcymbers yn dod ymlaen yn dda rŵan a dwi’n gobeithio bydd y pupurau yn llwyddo hefyd.  Dim gormod o basil eleni, ond digon i wneud pesto i’r ŵyrion.  Ac yn yr ardd ei hun, mae yna ddigon o ffa Ffrengyg; courgettes yn dechrau; a’r mafon bron wedi gorffen - o ia, a mŵyarduon yn dod ymlaen yn dda (i’r rhewgell i fynd gyda afalau yn yr hydref a’r gaeaf).  Unwaith dwi'n cael y lluniau i lwytho i'r cyfrifiadur (dweud na ar y funud) wnaf ychwanegu lluniau.

 

Ddois ar draws y wefan yma bore ’ma, sydd yn syniad mor dda.  Cael blodau sydd wedi ei tyfu yn lleol.  Mae ôl carbon blodau yn fawr iawn, felly dyma ffordd i gael flodau gwych, lleol.

 

Ddois ar draws y wefan yma bore ’ma, sydd yn syniad mor dda.  Cael blodau sydd wedi ei tyfu yn lleol.  Mae ôl troed carbon blodau yn fawr iawn, felly dyma ffordd i gael flodau gwych, lleol.  https://www.flowersfromthefarm.co.uk/

 

Dan ni’n ffodus yn fama, mae rhywun yn tyfu blodau ond ryw filltir i ffwrdd, a mae siop blodau lleol yn eu gwerthu.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home