Ailddysgu

Saturday 11 May 2024

Tystysgrif Iaith

Tybiaf fod y rhai ohonoch chi sy’n sgwennu go iawn yn sgwennu pytiau sydd yn cael eu gadael i un ochr.  Falle.  Yn bendant mae hyn yn digwydd gyda fy mlog.  Dwi’n dechrau post a dim yn ei orffen, am ba bynnag reswm. Dyma un yr oedd am sgwennu ym mis Ebrill:

 

Her

Ar y funud dwi’n gweithio’n galed i wella fy Nghymraeg.  Am ryw reswm penderfynais gofrestru ar gyfer y Dystysgrif Sgiliau Iaith.  I ddweud y gwir dwi YN gwybod pam.  Roedd cyfle gen i, oherwydd fy mod yn cymryd y cwrs Gloywi, a meddyliais fydd her yn dda i fi.

 

Felly, dwi wedi cwblhau y prawf llafar ar lein.  Y dasg honno oedd gwneud cyflwyniad.  Teitl fy nghyflwyniad oedd “Byw Drwy Gyfrwng y Gymraeg yn Lloegr”.  Cefais hwyl yn ei pharatoi, a dwi’n meddwl ei fod wedi mynd yn iawn. 

Mater arall ydy’r gwaith ysgrifennedig.  Fel wyddoch chi, dwi’n gnweud llawer o gangymeriadau yn fy Nghymraeg.

 

Dwi wedi gorffen y proses erbyn hyn.  Yn dilyn y cyflwyniad oedd arholiad ysgrifennedig yng Nghaerdydd, ac wythnos diwethaf, es i aros gyda fy ffrind Gareth am noson yn sir Morgannwg, a mynd i Gaerdydd i sefyll yr arholiad.  A dyna fo, wedi ei wneud.  Doedd o ddim i’w weld yn rhy ddrwg, ond fel bob tro, dwi’n ysu i fod yn fwy huawdl yn y Gymraeg, ond efalle mai gobaith caneri ydy cyfathrebu yn dy ail iaith yr un fath ac yn dy famiaith.

 

Tra yn yr ardal cefais ymweld â San Ffagan ag eglwys San Illtud.  Gwych!





0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home