27 Tachwedd: Enwau Cymraeg
Yn fy mlog ddiweddar, sgwennais am y tiwlips oren yn tyfu gyda’r planhigion “honesty” (lunaria) a doeddwn ddim yn ymwybodol o’r enw Cymraeg. Ers hynny, dwi wedi darganfod (diolch Gwen) bod yna sawl enw i’r planhigyn yma fel, e.e., arian parod, arian cybydd, ceiniogau dyn tlawd a blodau sbectol. Y rheswm am yr enwau yma i gyd, dwi’n meddwl ydy bod yr hadau dipyn bach fel arian:
Ond yr enw gorau, yn fy marn i, ydy “sbectol nain”. Fel arfer, mae yna lawer mwy o enwau i gael ar gyfer adar neu anifeiliaid yn Gymraeg na sy’n bodoli mewn Saesneg. Ond gyda sbectol nain, mae ’na lawer o enwau Saesneg hefyd, yn ôl yr RHS, ond fy mod heb ddod ar eu traws nhw. https://www.rhs.org.uk/plants/98034/lunaria-annua/details ac yn cynnwys pethau tebyg, e.e. “Chinese money”, “grandpa’s specs” a “money flower”
Mae gwreiddiau geiriau yn ddiddorol ond dydyn? Mi es i i bori drwy Lyfr Natur Iolo, rhag ofn bod “spectol nain” yno, ond doedd o ddim. Ond wrth sbecian mi ddois ar draws enw am borage, (borago officionalis). “Tafod y buwch”. Ond pam, tybed? Dwi’n gwybod sut beth ydy tafod buwch a thafod llo bach, a dwi ddim yn gweld y cysylltiad gyda borage!
Beth bynnag, i fynd yn ôl at y tiwlips, dwi wedi llwyddo i blannu bob un erbyn hyn. Roedd rhaid peidio dros y penwythnos, gyda’r glaw trwm a’r gwyntoedd cryf, ond heddiw, yr oedd yn ddigon sych, y prynhawn yma, i roi tri gwahanol fath, sef tiwlip mariola, (piws hyfryd) “tulipa lemon beauty”; (gwyn gyda thipyn o felyn) a “Black hero”, piws tywyll. Gobeithio bydd y cyfuniad yma yn edrych yn dda!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home