Ailddysgu

Friday, 22 November 2024

Y Dinas




Dyma gerflun gyda haul y prynhawn hwyr arno fo, yn y ddinas ddoe.  Es i gyfarfod â ffrind a mynd i weld Paddington 3  - ia, oedolion, dim plant o gwbl!  Ac mi oedd yn dda.  Ond cyn hynny crwydrais o gwmpas y parc am dipyn oherwydd roedd dipyn o amser yn sbâr, ac roedd y golau yn wych.  Dyma'r pyramid golau, sydd ar y pwynt uchaf ym mharc y ddinas, gyda golygfeydd allan y tu hwnt i Milton Keynes.


 

Es i ar y bws felly roedd yn bwysig cael rhywbeth i wneud ar y daith. Dechreuais ar yr ymarferion yn y llyfr hwn a ddaeth yn y post cwpl o ddyddiau yn ôl. 


Nid yw'n syndod bod yr ymarferion cyntaf yn weddol syml ac roedd fy ymdrechion yn eithaf da, ond ddim yn berffaith! Y syniad yw trio llenwi'r bylchau yn fy ngwybodaeth gramadeg - neu efallai hefyd, i wella fy nefnydd o ramadeg Cymraeg; oherwydd, ar adegau, rwy'n berffaith ymwybodol o'r rheol ond yn anghofio ei chymhwyso ac ar adegau eraill, dwi’n anghofio’r rheol ac weithiau dwi’n ymwybodol o’r ffordd gywir.  Gobeithiaf fy mod yn gwella fesul tipyn, beth bynnag.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home