Ailddysgu

Wednesday, 4 March 2026

Gwyl Ddewi Arall



Treuliais y penwythnos yng Nghaernarfon i fynychu Gŵyl Ddewi Arall fel dwi’n trio gwneud bob blwyddyn.  Mae’r ŵyl yma yn llai na’r un sydd yn yr haf, ond yn bwysig i fi o ran siarad a chlywed y Gymraeg trwy’r penwythnos, a digwyddiadau diddorol: llenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes.  Y digwyddiad gyntaf i fi fynd iddi oedd darlith gan Elin Tomos am sut oedd merched yn cyfrannu at incwm teuluoedd y chwarelwyr.  Dwi wedi clywed Elin yn siarad mwy nag unwaith ac mae hi wastad yn ardderchog.  Wrth gwglo rŵan gwelais fod Elin Tomos wedi cael ei henwi ar restr y 30 hanesydd mwyaf dylanwadol o dan 30 oed yng nghylchgrawn hanes y BBC yn 2024.


Ac mae hi’n dweud, ar LinkedIn, ynglŷn y pwnc yma: “Mae cofnodion y cyfrifiad wedi awgrymu ers amser maith nad oedd menywod yn cyfrannu at incwm y teuluoedd, ond tydi'r cyfrifiad ddim yn ffon fesur deg.”




A dyna yr oedd hi’n esbonio: sawl reswm pam nad oedd y cyfrifiad yn dweud y cwbl: e.e.. diffiniad gwaith yn tueddu cynnwys gwaith tu allan i’r tŷ a bod y dynion yn llenwi'r cyfrifiad ac efalle dim yn fodlon cyfadde’ bod y gwragedd yn gwneud cyfraniad economaidd - oherwydd dyletswydd nhw, y dynion, oedd ennill pres.

 


Yr oedd Elin yn sôn am ferched yn hel a gwerthu mawn a grug gan ddefnyddio merlod, ond wrth i’r diwydiant cynyddu, gwaith cartref oedd gwaith merched er bod tystiolaeth hefyd bod merched yn cludio llechi.  Roedd cyfrifiad 1871 yn dangos bod Mari Jones a oedd yn weddw ac yn 37 oed yn cael ei ddisgrifio fel “carrier of slaes from quarry”.  Ac efallai bod yr adfywiad crefyddol wedi cael effaith i gadw merched cartref.  Beth bynnag erbyn 1901, roedd 84% o ferched Bethesda yn ddi-waith, yn ôl y cyfrifiad.  Ond efallai bod llawer mwy yn gweithio, ond yn y cartref?  Yr oedd cadw tai lojins yn rhywbeth cyffredin yn y cyfnod yma a’r merched oedd yn gyfrifol am y gwaith yma – ac wrth gwrs, ‘roedd merched hefyd yn gofalu am y tyddyn: os oedden nhw yn byw yng nghefn gwlad yn aml yr oeddent yn cadw mochyn ac ieir ac efallai gwartheg ac yn tyfu llysiau.  Merched oedd yn gwneud y gwaith yma – ond doedd y gwaith yma ddim yn cyfri yn y cyfrifiad. 


Mae Elin wedi cyhoeddi un llyfr: "Y mae y lle yn iach: Chwarel Dinorwig 1875-1900" a gobeithiaf efallai bydd y gwaith yma yn arwain at llyfr hefyd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home