Nodiadau am Pantglas
- gan y Clwb Darllen Llundain. (Os gennych chi ddiddordeb mewn ymumo a'r grŵp, cysylltwch a fi neu
Brendan)
Diolch i'r aelodau o'r grŵp sydd wedi fy helpu gan cywiro'r gwallau - a wedi ychwanegu pethau. Fy ddehongliad i ydy'r "adolygiad" yn y bôn, ac fel mae nhw'n dweud mewn llyfrau, fy mai i ydy unryw gwall neu ddehongliad anghywir sydd ar ôl.
Dwi’n meddwl bod y rhan fwyaf ohonon ni wedi
mwynhau y llyfr. Portread o bentref bach
ydy Pantglas, ac yn enwedig, portread o’r gymdeithas. Efallai bod rhai o’r cymeriadau wedi eu
gorlunio; yn bendant mae rhai ohonyn nhw dros ben llestri! Ac efallai dyna beth oedd yr awdur yn
bwriadu. Roedd rhai o’r portreadau hyn
yn ddigri iawn ac roedd rhai o’r
cymeriadau yn dipyn mwy cron - fel Cati yn y siop efallai. Ac er bod y deialog dipyn yn anodd: “O ran
iaith roedd rhaid i fi ailddarllen bob brawddeg oedd yn gynnwys ‘wath’ yn lle ‘oherwydd’ neu ‘achos’ i wneud
yn siŵr mod i wedi ei deall yn iawn“
roedd y sgwennu yn y naratif yn
ardderchog: “Mae’r awdur yn gallu disgrifio cymeriadau mewn cwta frawddeg fel y
mae e gyda Wil gan ddweud ‘distawrwydd oedd ei famiaith’“
Yn y dechrau 'roedd y llyfr yn teimlo fel nifer o
bortreadau cymeriadau gwahanol bentref bach: yn dechrau efo Siop Cati a wedyn
Pant Glas a'r Canon, Pitar Ward, Estons a.y.y.b. ac er bod yna un stori fawr -
y gronfa - roedd mwy o bwyslais ar y cymeriadau nag ar y naratif - ac roeddwn i, beth bynnag, yn colli cael
naratif cryf, ac yn ffeindio bob pennod yn
symud ymlaen i gymeriad a stori arall yn rhwystredig. ’Roedd rhaid i fi edrych yn ôl weithiau i
gofio’r cymeriad a’r stori. Gyda’r llyfr
yn datblygu, roedd llawer o’r storïau
bach yn cymysgu; rhai yn felys, (ar y
dechrau, beth bynnag) fel Wil a Mair, rhai yn ddoniol, a rhai, fel stori Pantglas ei hun, yn ragrithiol:
a'r syniad o gael cyngor o’r gweinidog yn ddigri iawn. Mae’r naratif sydd yn
datblygu wrth i'r llyfr mynd ymlaen yn cael ei ddatgelu yn raddol. Mae digon o hiwmor, trwy’r llyfr, ac wrth i
amser adael y pentref dod yn nes, mae o'n drist hefyd.
Un peth roeddwn ni yn trafod oedd y gwahaniaeth
rhwng y llyfr yma a llyfrau eraill am gronfeydd yng Nghymru (fel Tonnau Tryweryn) sydd yn fwy gwleidyddol. Mae Mihangel Morgan yn defnyddio ffordd gwbl wahanol o ddweud stori am gwm yn
cael ei foddi: dim son am ymdrech mawr i'w hachub a gwleidyddiaeth, ond dangos
i ni sut roedd cymuned yn cael ei chwalu.
Ac erbyn i’r gymuned gwasgaru, roedden ni wedi dod i’w hadnabod - a rhai
ohonon ni yn teimlo’n drist. Hefyd,
mae Pantglas wedi ei seilio ar
ddigwyddiadau o amser gwahanol iawn i
Dryweryn, felly, yn ogystal â stori am gronfa, mae o’n stori hanesyddol am
bentref bach Cymraeg ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Ac i ryw raddau mae
tebygrwydd hefyd i Under Milkwood Dylan
Thomas.
Roedden yn trafod y diweddglo, a’r ffaith bod
rhaid i ni'r darllenwyr gweithio a
meddwl am ein dehongliad o beth oedd
wedi digwydd. Ac fel dwi’n dallt (heb
ddarllen llawer o lyfrau MM), dydi o ddim yn un i greu a gorffen stori
drefnus. Dywedodd un o’r grŵp ei fod o’n
rhoi jig-so i ni adeiladu. A dwedodd aelod arall: ”Roeddwn i eisiau diweddglo
mwy trefnus ond wedi meddwl amdano efallai dyna oedd y pwynt - nid diweddglo
trefnus gafodd pentrefwyr Pantglas.”
Mae adolygiadau eraill
(proffesiynol!) i’w gael yn fama a fama.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home