Ailddysgu

Tuesday, 30 October 2012

Pethau Hydrefol (2)



Ddoe oedd y diwrnod gyntaf i fi orfod beicio adref yn y tywyllwch.  Ond yr roedd yn ddiwrnod braf, heulog, a’r peth cyntaf ar fy rhestr o bethau hydrefol ydy’r draenog bach yma.  Does dim llawer ohonnyn nhw yn yr ardal yma a dwi’n credu  bod eu nifer yn gostwng dros y wlad, felly roedd yn dda ei weld o, a gobeithio ei fydd yn goroesi dros y gaeaf

(2)  Ystlumod - llawer ohonnyn nhw yn hedfan heibio tra roedden yn beicio’n ol yn y tywyllwch


(3)  Dail - mae nhw’n fwy na rhywbeth hardd iawn pan mae’r lliw yn troi - os dach chi’n casglu’r dail ac yn gadael nhw mewn bag plastic (gyda dipyn o dyllau) neu mewn twmpath - mae nhw’n datblygu (yn y diwedd) i ryw fath o gompost sydd yn ardderchog yn yr ardd - leaf mould - yn Saesneg - dim clem be ydi’r gair yn Gymraeg. (Ar ol i fi sgwenu hwn mae Wilias wedi cynnyg Deilbridd - sydd yn dda ofnadwy, dwi'n meddwl)



(4)  Pupurau yn aeddfedu yn araf bach, bach, yn y tŷ gwydr. 


2 Comments:

At 30 October 2012 at 13:55 , Blogger Wilias said...

Mae J.E.Jones (‘Llyfr Garddio’, Llyfrau’r Dryw, 1969) yn defnyddio DEILBRIDD ar gyfer compost; ond i mi mae deilbridd yn gweddu'n berffaith i ddisgrifio leafmould. Beth bynnag mae rhywun yn ei alw, mae o'n stwff gwerthfawr iawn tydi, a rhywun yn wirion i beidio cymryd mantais o rywbeth sydd am ddim!

 
At 31 October 2012 at 10:39 , Blogger Ann Jones said...

Diolch, Wilias. Dwi'n hoffi'r gair deilbridd - a fel dach chi'n dweud, mae o'n stwff ardderchog. Mi gefais bag arall bore 'ma - a dwi'n bwriadu cael cyn gymaint a medra i tra mae'r tymor yn parhau!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home