Ailddysgu

Friday 26 October 2012

Pethau Cymraeg


Mi fwynhais ein trafodaeth nos Lun yn y Clwb Darllen Llundain, lle buom ni yn trafod Pantglas gan Mihangel Morgan - a dwi’n gobeithio rhoi ryw fath o adolygiad o’r llyfr mewn post blog.  Mae’r grŵp eitha newydd, on yn frwdfrydig ac yn cael amser dda - fel arfer yn y bar yn y Canolfan.  Mae’r grŵp yn agor i aelodau newydd os gan rhywun ddidordeb.

Mae ’na pethau Cymraeg i edrych ymlaen atynt yn y dyfodol hefyd.  Yr ysgol undydd, y Sadwrn ar ol nesaf, sydd hefyd yn y Canolfan yn Llundain. Dwi wastad yn mwynhau y cyfle i siarad Cymraeg trwy’r rhan fwyaf o’r diwrnod.  Tro yma, mae ffrind yn dod efo fi.  Siaradodd Cymraeg fel plentyn - ond symydodd i Loegr pan oedd hi’n saith.  Er hynny, mae hi wedi cadw rywfaint o Gymraeg i fynny trwy siarad a’i thad.  Ond rŵan mae ei thad wedi marw - a mae hi yn gobeithio ail-ddysgu a datblygu ei Chymraeg,

Wedyn, yr wythnos canlynol, mae cyngerdd Dafydd Iwan yn y Canolfan hefyd ar yr wythfed o Dachwedd a dwi’n edrych ymlaen i glywed Dafydd Iwan unwaith eto - a cofio  hoff caneuon.

Ac wrth sgwrs mae’r amser yn newid y penwythnos yma a bydd hi’n dywyll erbyn 5 neu cynt, felly bydd llai o amser allan yn yr ardd (neu yn y tŷ gwydr) a mwy o flaen y tan. Felly dwi’n falch o weld llyfr newydd gan Gwen Parott: Cyw Melyn y Fall. Dwi wedi mwynhau ei llyfrau eraill a mi fyddaf yn edrych ymlaen at hwn (mae o’n dod allan diwedd y mis). A llyfr araill dwi yn bendant yn edrych ymlaen amdano ydy hunangofiant Bethan Gwanas . Felly digon i wneud, er ei bod hi'n oer a tywyll. A cyn orffen dyma llun o'r aubergines (eto).



Ia dwi'n gwybod, dwi wastad yn dangos lluniau'r aubergines ond o'r diwedd mae nhw'n gwneud yn dda, a dwi mor falch!

1 Comments:

At 26 October 2012 at 13:17 , Blogger neil wyn said...

diddorol clywed am ddigwyddiadau yn Llundain!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home