Ailddysgu

Sunday 4 November 2012

Cwrs Un-Dydd Llundain a Paned a Chacen a..



Mi ges i ddiwrnod da yn Llundain ddoe, ar y cwrs Hydref, un-dydd.  Os dach chi’n diwtor, mae’n siwr ei fod yn anodd iawn penderfynu be i ddysgu – hyd yn oed mewn un dosbarth mae  profiadau y dysgwyr a’r safon o Gymraeg yn wahanol iawn, a rhai pobl eisiau cael gwersi gramadeg, ac eraill eisiau cyfle i siarad a trafod.
Dechreuon ni yn y bore yn ein grŵp ni, gan ateb y cwestiwn, be sy’n anodd  i ni ynglyn a dysgu Cymraeg?  Lle dda i ddechrau, dwi’n meddwl – a diddorol gweld amrywiaeth yr atebion.  Dyma rhai pethau ar y rhestr y gwnes i, o be oedd pawb yn dweud:
  1. Treigladau (o hyd – fi ydi honna!:-)
  2. Deall pobl yn siarad, yn enwedig pan mae nhw’n siarad yn gyflym ac yn enwedig clywed lle mae geiriau yn dechrau a diweddu
  3.  Cael cyfle i siarad Cymraeg.  Problem iaith lleuafrif ydy hon, lle mae o’n bosib bod yn Nghymru a dim cael cyfle i siarad Cymraeg oherwydd mae pawb yn siarad Saesneg. 
  4.  Soniodd rhywyn arall am fod hen – a siwr o fod, mae’r ffaith bod y cof yn dirwyio dim yn helpu .
  5. Dim athro
  6. Parhau i gyfiethu yn eich pen – yn lle meddwl yn y Gymraeg

      A dwi wedi bod yn meddwl am y rhestr yma a be fedrwn i wneud am y pethau hyn:


  1.      Treigladau.  Wel, i fi, mae’n siwr fy mod i ddim yn gweithio ar y gramadeg, digon.  Ond eto, dwi’n siwr hefyd, ei fod o ddim yn bosib dysgu y rheolau i gyd – a, petai o’n bosib, bydde dim digon o amser i feddwl am y rheol a defnyddio fo – yn sicr mewn siarad.  Felly, dwi’n trio edrych ar y cangymeriadau dwi’n gwneud (pan dwi’n cael adborth) a dallt a cofio’r ffordd cywir – ond mwy na hynny, dwi’n trio darllen digon o bethau Cymraeg gwahanol a gobeithio bydd y patrwm cywir yn dechrau dod yn ran ohonno fi.  Efalla mae o’n cymryd amser hir....
  2.      Dallt pobl yn siarad, yn enwedig pan mae nhw’n siarad yn gyflym.   Wel, dwi’n ffodus.  Yn y bôn, dydi hwn ddim yn broblem i fi, yn enwedig yn y Gogledd, achos nes i dyfu i fynny yn clywed ac yn siarad Cymraeg.  (Mae dallt rhai pobl yn y Dde yn rhywbeth wahanol, weithiau)  Ond dwi’n meddwl efallai bod bob iaith yn ei weld yn gyflym i ddysgwyr.  Er enghraifft , wedi dysgu rywfaint o Eidaleg, dwi wedi anghofio llawer ohono fo.  Ond, pan dwi’n gwylio rhywbeth fel Montabano, dwi’n trio clywed rhai o’r geiriau – a, gyda dipyn o amynedd ac amser, mae o’n dod yn glirach.  Dwi’n meddwl mae’r cyfrinach ydy cael digon a digon o brofiad o wrando ar y iaith. (Ac amynedd.... 
  3. Cael cyfle i siarad Cymraeg.    Mae hwn yn anodd – enwedig pan dach chi’n byw yn Lloegr!  Ond mae o hefyd yn anodd yng Nghymru, i ryw raddau.  Un peth a fedrai helpu llawer ydy cael ffrind Cymraeg i siarad gyda nhw – a gyda’r we y dyddiau yma mae hwnnw’n haws nag oedd o.  Dwi’n ddiolchgar iawn i Gareth (cyfarfon ni ar gwrs Cymraeg) am y cyfle i siarad ar y ffôn pob wythnos.
  4. Yr ochr arall o’r cof yn dirywio (wrth heneiddio) ydy bod dysgu iaith yn helpu chi osgoi dementia, yn ol y sôn.
  5.   Heb athro, dwi’n meddwl bod rhaid i ni edrych pethau i fynny ein hunan, cael help gan ein ffrindiau – a hefyd defnyddio’r we cymdeithasol – edrychwch ar llwyddiant SSIW
  6. Parhau i gyfiethu yn eich pen: Ia, dwi’n cytuno gyda hwn.  Ac yn fama hefyd, mae’n bwysic cael digon o siawns i gyfathrebu, ac i gyfathrebu – a wedyn mwy o gyfathrebu....

Wedi gorffen y ddarlith rwan!  Felly un neu dda beth arall am ddoe.  Yn gyntaf, ‘roedd Ellir Gwawr yna, gyda ei llyfr newydd, wedi datblygu o’r blog Paned a Chacen.  
Dwi wedi mwynhau y blog , felly, er fy mod i ddim yn gwneud llawer o bobi –mi brynais y llyfr, a dwi’n gobeithio cael fy ysbrydoli.  Yn sicr mi fydd yn trio un neu ddau o’r ryseits.
As wrth mynd yn ol ar y tren, ar ol cyfarfod gyda ffrind, a cael bryd o fwyd ardderchog yn El Parador  gorffenais darllen Dyn Ddirgel - a dwi wedi mwynhau y llyfr yn arw.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home